Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bydd yn rhaid i ddisgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo mygydau ym mhob man y tu allan i’r ystafell ddosbarth mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cyfres o awgrymiadau er mwyn cadw lleoliadau addysgol yn ddiogel.

Yn ôl Siân Gwenllian, Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, mae angen diweddaru’r mesurau diogelwch a roddwyd ar waith ym mis Mehefin yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd “ar frys.”

Mae ymchwil diweddar yn dangos mai plant sydd yn tueddu i fod y cyntaf i gael eu heintio â’r coronafeirws o fewn yr aelwyd a bod lefelau uwch o’r haint o fewn ysgolion.

Ymhlith yr awgrymiadau mae rhaglenni profi asymptomatig torfol, cymorth ariannol ychwanegol i ddelio â thlodi digidol, a chymorth ariannol i gyflogi athrawon ychwanegol ac athrawon cyflenwi ychwanegol.

‘Rhaid adolygu’r mesurau diogelwch’

Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru yn ffyddiog y gall mesurau yma fynd i’r afael â’r mater, a hyny gan bod gan ysgolion fwy o ran i’w chwarae mewn trosglwyddo cymunedol nad oedd pobol yn ystyried.

“Roedd y mecanweithiau diogelwch a roddwyd ar waith yn ein hysgolion ym mis Mehefin yn seiliedig ar dystiolaeth nad oedd gan blant rôl i’w chwarae wrth drosglwyddo’r feirws,” meddai Siân Gwenllian.

“Rydym bellach yn gwybod nad yw hynny’n wir, felly mae’n rhaid adolygu’r mesurau diogelwch.

“Mae’r pecyn ‘Cadw Ysgolion yn Ddiogel’ rwyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o’r mesurau y mae angen mynd i’r afael â hwy mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i gadw dysgwyr a staff mor ddiogel â phosibl.

“Mae hefyd yn mynd i’r afael â’r angen i gefnogi dysgwyr y mae eu haddysg yn cael ei darfu fwyaf arno, drwy gyflogi athrawon ychwanegol a defnyddio athrawon cyflenwi i gymryd rhan yn y dysgu cyfunol sydd ei angen mewn llawer o ysgolion.

“Lle nad yw’n ddiogel cadw ysgolion ar agor, rhaid i ddysgu barhau o bell i safon uchel.”

Ychwanegodd Siân Gwenllian fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw dysgwyr “yn cael eu gadael ar ôl”.