Bydd yn rhaid i ddisgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo mygydau ym mhob man y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac ar gludiant i’r ysgol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 23).
Bydd ymwelwyr i bob ysgol a choleg, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n gollwng ac yn casglu eu plant, hefyd yn gorfod wisgo mygydau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau heddiw ar y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd a cholegau. Ysgolion ac awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am benderfynu lle a phryd ddylai gorchuddion wyneb gael eu gwisgo mewn ysgolion a cholegau cyn hyn.
“Haws eu gweinyddu”
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae’n hanfodol i bobl ifanc, rhieni, oedolion a’r gweithlu deimlo’n hyderus bod pob cam yn cael ei gymryd i sicrhau bod pob lleoliad addysg mor ddiogel â phosibl.
“Rydyn ni wedi dweud yn glir y byddwn ni’n adolygu pob polisi yn gyson, ac yn parhau i ddilyn cyngor gwyddonol. Mae’r polisi sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn gwneud hynny.
“Mae’r canllawiau newydd yn syml i’w dilyn, yn haws eu gweinyddu ac yn sicrhau bod polisi cyson ar draws Cymru. Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi £2.3m i helpu i brynu gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd a cholegau.”
Ystafelloedd dosbarth
Mae polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer ystafelloedd dosbarth yn parhau’r un fath.
Mewn ystafelloedd dosbarth lle mae grwpiau cyswllt yn bodoli a mesurau rheoli eraill yn eu lle, rhaid cydbwyso’r manteision ymylol posibl o ddefnyddio gorchuddion wyneb yn erbyn yr effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu, gan gynnwys clyw a chyfathrebu cymdeithasol.