Mae dau ddyn wedi bod gerbron llys ynadon Llandudno heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 23) ar gyhuddiad o lofruddio dyn o Gaergybi, Ynys Mon.
Bu farw David John Jones, 58, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel DJ, yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke ddydd Iau (19 Tachwedd) o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w ben.
Cafodd Gareth Wyn Jones, 47 oed, a Stuart Parkin, 38 oed, y ddau o Gaergybi, eu cadw yn y ddalfa. Fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Caernarfon yfory (Dydd Mawrth, Tachwedd 24).
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, DCI Brian Kearney; “Er bod dau unigolyn wedi cael eu cyhuddo, byddwn yn parhau i apelio am unrhyw dystion a welodd David John Jones rhwng 10 ac 11 y bore fore dydd Mawrth 17 Tachwedd yng Nghaergybi, i gysylltu â ni ar 101.”
Mae Ystafell Ddigwyddiadau Difrifol wedi’i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Llangefni a dywed yr heddlu y byddan nhw’n parhau i gynnal ymholiadau yn lleol.
Mae swyddogion wedi cael gwarant i gadw dynes yn y ddalfa am gyfnod hirach mewn cysylltiad â’r ymchwiliad llofruddiaeth.