Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, wedi ysgrifennu at weinidogion a phenaethiaid adrannau’r Llywodraeth i’w hatgoffa “nad oes lle i fwlio”.
Daw hyn ar ôl i ymchwiliad ganfod bod yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wedi gweiddi a rhegi ar staff.
Roedd cryn ymateb yn Stryd Downing ddydd Gwener (Tachwedd 20) pan ymddiswyddodd Syr Alex Allan, ymgynghorydd y Prif Weinidog ar safonau gweinidogol, ar ôl i Boris Johnson gefnogi’r Ysgrifennydd Cartref a gwrthdroi’r casgliad ei bod hi wedi torri’r cod gweinidogol.
Nid yw Stryd Downing wedi gwadu’r awgrymiadau bod Boris Johnson wedi ceisio ac wedi methu a pherswadio Syr Alex Allan i newid ei gasgliadau fod ymddygiad Priti Patel yn gyfystyr â bwlio.
Wrth gyhoeddi datganiad gweinidogol ysgrifenedig, roedd y Prif Weinidog yn cydnabod fod Syr Alex Allan wedi dod i’r casgliad fod modd disgrifio ymddygiad Priti Patel “ar brydiau fel bwlio o ran yr effaith a gafodd ar unigolion”.
Ond ychwanegodd ei fod yn “llwyr hyderus” ynddi a “bod y mater hwn bellach wedi dod i ben”.
Dywedodd: “Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi ysgrifennu at bob gweinidog ac ysgrifennydd parhaol.
“Mae’r llythyr hwn yn nodi pwysigrwydd perthnasau o ymddiriedaeth a pharch rhwng gwleidyddion a’u swyddogion.
“Mae hyn yn cynnwys cadw sgyrsiau mewnol yn breifat, teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored ac yn onest am faterion gwladol a thrafod pethau sydd ddim yn gweithio fel ein bod yn gallu mynd i’r afael â nhw gyda’n gilydd.
“Rwy’n glir bod dyletswydd benodol ar weinidogion ac ysgrifenyddion parhaol i greu diwylliant ar draws y Llywodraeth sy’n broffesiynol, yn barchus ac yn uchelgeisiol, lle nad oes lle i fwlio.”
Nid oes “unrhyw esgusodion”
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, ymddiheurodd yr Ysgrifennydd Cartref, gan ddweud nad oedd “unrhyw esgusodion” dros yr hyn ddigwyddodd.
Dywedodd yr wythnos ddiwethaf fod “unrhyw ofid yr wyf wedi’i achosi yn gwbl anfwriadol ac, wrth gwrs, mae ef (Syr Alex Allan) yn dweud yn yr adroddiad, na chafodd y materion eu codi gyda i mi ar y pryd.”
Mae Llafur wedi galw am gyhoeddi’r adroddiad ar ymddygiad Priti Patel yn llawn.
Darllen mwy