Mae cynghorydd Boris Johnson ar safonau gweinidogol, Syr Alex Allan,  wedi ymddiswyddo wedi i’r Prif Weinidog ddweud nad oedd Priti Patel wedi torri’r rheolau ar fwlio staff.

Dywedodd Syr Alex Allan nad oedd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn trin gweision sifil ag “ystyriaeth a pharch”, a daeth i’r casgliad bod ei dull gweithredu ar adegau yn gyfystyr ag ymddygiad y gellir ei ddisgrifio fel bwlio.

Dywedodd nad oedd Priti Patel wedi cadw at y safonau uchel sy’n ofynnol i Weinidogion ddilyn.

Fel arfer, disgwylir i Weinidogion ymddiswyddo os ydyn nhw yn torri’r côd ymddygiad, ond mynnodd Boris Johnson nad oedd Priti Patel wedi torri’r rheolau.

Mewn datganiad dywedodd y Llywodraeth fod gan y Prif Weinidog “hyder llwyr” yn yr Ysgrifennydd Cartref a bellach mae’n “ystyried bod y mater hwn ar ben”.

Ymddiswyddodd Syr Alex Allan mewn ymateb i benderfyniad Boris Johnson, gan ddweud mai mater i’r Prif Weinidog yw penderfynu a yw’r Gweinidog wedi torri’r côd gweinidogol.

Mae Priti Patel hefyd wedi ymddiheuro am ei hymddygiad yn y gorffennol ac wedi diolch i’r Prif Weinidog am ei gefnogaeth.

“Gwarthus”

Mae penderfyniad Boris Johnson i gefnogi’r Ysgrifennydd Cartref, wedi’i gwylltio Aelodau Seneddol yr wrthblaid.

“Mae’n anodd dychmygu gweithle arall yn y Deyrnas Unedig lle byddai’r ymddygiad yma yn cael ei ganiatáu gan weithwyr ar y brig,” meddai arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer.

Dywedodd Jess Phillips, Gweinidog yr Wrthblaid dros Drais Domestig, ei fod yn “gwbl warthus” a bod unrhyw Aelod Seneddol Ceidwadol sy’n “ceisio amddiffyn hyn yn gwbl afresymol”.

Lansiwyd ymchwiliad gan Swyddfa’r Cabinet ym mis Mawrth ynghylch honiadau bod Priti Patel wedi bychanu cydweithwyr.

Dydy’r Llywodraeth heb gyhoeddi’r adroddiad llawn am ei hymddygiad.