Mae disgwyl i brotestwyr Tai Haf Nefydd gael cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru i drafod yr “argyfwng ail gaertrefi” yr wythnos nesaf.
Daw hyn ar ôl i AoS Arfon, Siân Gwenllïan, ofyn i’r Prif Weinidog gyfarfod ag ymgyrchwyr ‘Hawl i Fyw Adra’.
“Gofynnais i’r Prif Weinidog gyfarfod â dirprwyaeth o dref Nefyn sydd wedi bod yn cynnal ymgyrch effeithiol iawn o dan faner ‘Hawl i Fyw Adra’,” meddai.
“Ysgogwyd yr ymgyrch gan y drafodaeth ddiweddar ynglŷn â’r argyfwng ail gartref, a’r angen i sicrhau bod tai lleol ar gael i bobol leol.”
Ymhlith yr ymgyrchwyr fydd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog, mae bron i 30 o gynghorwyr tref, ymgyrchwyr iaith a’r bobl leol gerddodd o Nefyn i Gaernarfon er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa.
Roedden nhw yn gorymdeithio i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i ddatrys yr “argyfwng ail gartref”.
Mae Rhys Tudur, un o gynghorwyr tref Nefyn, un o geffylau blaen yr ymgyrch, wedi dweud: “Mae cymunedau Cymru yn marw, fel mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf ac arolwg o’r iaith a ddefnyddir ar fuarthau ysgol yn ei ddangos.
“Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar y fenter Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a’n hunaniaeth a’n natur unigryw fel cenedl.”
Ychwanegodd ei fod wedi mynegi ei bryderon nad yw’r “pwerau presennol a roddir i Gynghorau Sir yn ddigonol.”
“Byddaf yn pwyso ar Mark Drakeford i roi’r pŵer i gynghorau bennu ‘cyfraddau uwch’ o gyfraddau treth tir yn ogystal â gwneud newidiadau i gyfraith cynllunio i gyfyngu ar drosi tai i lety hunanarlwyo.”
Cyfarfod rhithiol
Daw’r cyfarfod rhithiol rhwng yr ymgyrchwyr a’r Prif Weinidog yn dilyn adroddiad diweddar gafodd ei lunio a’i gyhoeddi gan Blaid Cymru yn honni bod dros draean o’r cartrefi a werthwyd yng Ngwynedd ac Ynys Môn, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, wedi’u prynu fel ail dai.
Mae’r adroddiad yn argymell pum cam sydd eu hangen i fynd i’r afael ag argyfwng yr ail gartref, gan gynnwys newid cyfreithiau cynllunio, cyflwyno premiymau ar dreth gyngor, cau loopholes, cyflwyno cynllun trwyddedu, a grymuso cynghorau i adeiladu tai â chyflyrau lleol arnynt.
Roedd arolwg diweddar o farchnad dai gogledd Cymru a gynhaliwyd gan NorthWalesLive yn adleisio canfyddiadau’r adroddiadau, gan ddatgelu bod bron i hanner y bobol a holwyd wedi dweud na allan nhw fforddio prynu tŷ lle cawsant eu magu.
“Yr unig ateb yw ethol Llywodraeth Paid Cymru yn 2021”
“Rwyf yn edrych ymlaen at ymuno mewn cyfarfod rhithwir rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr ymgyrch Hawl i Fyw Adra Pen Llŷn yr wythnos nesaf,” meddai Siân Gwenllïan.
“Ond un peth yw cynnal cyfarfodydd a gwneud y sylwadau cywir a dweud eich bod yn deall y broblem. Mater arall yw cymryd camau i atal y cynnydd mewn ail gartrefi mewn cynifer o ardaloedd yn y gorllewin.
“Yn y Senedd cefais gyfle i ofyn a oedd y Llywodraeth yn bwriadu cymryd unrhyw gamau penodol i newid y gyfraith – o ran cynllunio neu ariannu – rhwng nawr ac ethol Senedd newydd ym mis Mai?
“Yr ateb oedd ’na’ – doedd dim amser ac roedd yn rhy gymhleth.
“Felly mae’n ymddangos nad yw’r Llywodraeth yn fodlon gwneud dim i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, a’r unig ateb yw ethol Llywodraeth Paid Cymru yn 2021 fel y gallwn gymryd camau.”