Bydd criw o tua 30 o gynghorwyr, pobol leol ac ymgyrchwyr am gerdded o Nefyn i Gaernarfon yfory, er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phroblem tai haf y gogledd.

Bydd y criw yn cychwyn o Nefyn am wyth y bore ac mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon tua thri y p’nawn.

Trwy orymdeithio mae’r protestwyr yn gobeithio rhoi pwysau ar y Llywodraeth i ddeddfu er mwyn rhwystro gormodedd o dai Gwynedd rhag troi’n dai haf.

Mae yna bryderon mawr fod gormod o dai yn y sir yn ail gartrefi, a bod hynny yn ei dro yn rhwystro pobol leol rhag medru fforddio aros yn yr ardaloedd. Mae yna ofidion hefyd am oblygiadau hynny i’r iaith Gymraeg.

“Tor-calon”

“Rwyf yn hynod siomedig gyda diffyg gweithredu ac ewyllys sydd gan Lywodraeth Cymru i ymafael ag argyfwng ail gartrefi,” meddai Rhys Tudur, cynghorydd tref yn Nefyn.

“Nid oes ewyllys gwleidyddol gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd i ddatrys problemau cymunedau yma yng Ngwynedd a Môn.

“Ac mae diffyg gweithredu’r llywodraeth yn dor-calon wrth ystyried bod gormodedd o ail gartrefi mewn cymunedau yn arwain at anghydbwysedd enfawr sy’n niweidio llesiant cenedlaethau’r dyfodol sy’n methu fforddio byw yn eu bro.”

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cymryd rhan yn yr orymdaith, fel rhan o’i hymgyrch ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i basio Deddf Eiddo newydd.