Mae perchennog wal ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi ei phrynu er mwyn sicrhau y bydd yn “saff am byth.”

Prynodd Dilys Davies y wal tua blwyddyn yn ôl a bydd yn cael ei throsglwyddo i elusen mae hi wedi ei sefydlu, Troi’r Trai.

Mae’r wal wedi cael ei difrodi sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn cael ei hatgyweirio.

“Cyffrous”

“Mae’n gyffrous iawn bod y gwaith wedi dechrau’r wythnos hon”, meddai Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion a Llywydd Senedd Cymru.

“Rydan ni’n falch bod yno arbenigwr lleol, Nathan Goss, yn arolygu’r gwaith ac mai contractwyr lleol, sy’n gyfarwydd â’r maes treftadaeth, fydd yn ymgymryd â’r dasg.”

Bu’n rhaid i’r contractwyr dorri coed oedd yn tyfu o gwmpas y wal yn ogystal â chodi sgaffald.

“Wrth wneud y gwaith coed fe ddarganfyddo’n nhw eu bod nhw wedi dechrau pydru am eu bod nhw’n dioddef o’r haint Ash dieback, felly roedd yn anochel y byddai’n rhaid iddyn nhw ddod i lawr,” meddai Elin Jones.

“Y cynllun nawr ydy i godi clawdd newydd ac ail-blannu rhyw gymaint yn ogystal â diogelu’r wal ei hun.”