Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau y bydd Brenhines Lloegr yn derbyn arian ychwanegol o’r coffrau cyhoeddus yn dilyn cwymp sylweddol yng nghyllid Ystâd y Goron yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae’r teulu brenhinol yn derbyn rhent o siopau yn Stryd Regent yn Llundain, ynghyd â chanolfannau a pharciau manwerthu ledled y wlad – ond mae ei werth wedi gostwng o fwy na £500m ers dechrau’r pandemig.

Dywedodd y Trysorlys y byddai’n darparu arian ychwanegol i’r ystâd i gwrdd ag unrhyw ddiffyg mewn elw.

“Os bydd gostyngiad yn elw Ystâd y Goron, mae’r grant sofran wedi’i osod ar yr un lefel â’r flwyddyn flaenorol,” meddai llefarydd wrth bapur newydd The Independent.

“Mae’r refeniw o Ystâd y Goron yn helpu i dalu am ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol – dros y 10 mlynedd diwethaf mae wedi cyfrannu £2.8biliwn i’r Trysorlys.

“Mae’r grant sofran yn ariannu busnes swyddogol y frenhiniaeth, ac nid yw’n darparu incwm preifat i unrhyw aelod o’r teulu brenhinol. ”

Mae disgwyl i ragor o fanylion am y grant sofran gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw (Medi 25) ond mae deddfwriaeth mewn lle sy’n atal y swm a roddir i’r Frenhines rhag gostwng.