Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw y bydd Caerdydd yn cael ei hychwanegu at y rhestr o ardaloedd dan gyfyngiadau lleol, mae Llywydd newydd Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd (Y Gym Gym) wedi bod yn egluro wrth golwg360 sut bydd hyn yn effeithio ar drefniadau wythnos y glas yn y brif ddinas.
“Wythnos nesa oedd wythnos y glas i fod, ond wrth gwrs doedd hi byth yn mynd i fod yn wythnos y glas arferol”, meddai Martha Owen.
“I ddweud y gwir, roedden ni wedi rhagweld byddai yna glo yn cael ei gyflwyno yn fuan, felly benderfynom ni beidio trefnu gormod o ddigwyddiadau.”
Bydd Caerdydd dan glo o 6 yr hwyr ddydd Sul (Medi 27).
‘Helpu glas fyfyrwyr i ymgartrefu’
Yn sgil y coronafeirws, blaenoriaeth Martha Owen, sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio Seicoleg, yw helpu glas fyfyrwyr i ymgartrefu yn y brifddinas.
“Mae’n rhaid i ni dderbyn nad oes modd i ni gymysgu gyda’n gilydd”, meddai.
“Ond ein bwriad ni fel Y Gym Gym fydd rhoi syniadau i’r glas fyfyrwyr am bethau i’w gwneud a’u helpu nhw i ymgartrefu yma.
“O ran Cymry, ma’ pawb yn ’nabod ei gilydd, a byddai’n amhosib cadw pobol ar wahân, felly mae crôls arferol fel crôl teulu yn amhosib eleni.
“Dw i yn ffyddiog bydd o leiaf un digwyddiad yn mynd yn ei flaen wythnos nesaf ble bydd modd i fyfyrwyr archebu byrddau, ond bydd rheolau pellter cymdeithasol llym ar waith yno.
“Dw i hefyd yn gwybod bod rheolau diogelwch ychwanegol yn Senghennydd [llety myfyrwyr y Brifysgol] eleni.”
Eisteddfod Rhyng-gol yn y fantol
Cyfrifoldeb Y Gym Gym yw trefnu’r Eisteddfod Ryng-golegol y flwyddyn nesaf.
Ond eglurodd Martha Owen fod y sefyllfa bresennol yn gwneud hi’n amhosib dechrau’r gwaith o drefnu digwyddiadau o’r fath sy’n dod a myfyrwyr o brifysgolion gwahanol ynghyd.
“Hyd yn oed os bydd modd cynnal yr Eisteddfod fis Chwefror nesaf, mae’n amhosib i ni ddechrau ar y gwaith o drefnu gyda’r Undeb Myfyrwyr ar hyn o bryd.
“Mae’n annhebygol bydd modd i deithiau rygbi a hyd yn oed yr Eisteddfod Rhyng-gol fynd yn ei blaen, yn anffodus.
“Roedd hi’n rhagweld i fod yn flwyddyn anhygoel i fyfyrwyr yng Nghaerdydd, llawn gweithgareddau a digwyddiadau, ond dw i’n ffyddiog bydd modd i ni wneud y gorau o’r sefyllfa sydd ohoni.”
Clwb Ifor Bach yn cau ei ddrysau eto
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i orfodi tafarndai i gau am 10yh mae Clwb Ifor Bach wedi penderfynu cau am gyfnod amhenodol.
Daw hyn wedi i’r clwb, sydd yn boblogaidd iawn gyda myfyrwyr yng Nghaerdydd, ailagor ar benwythnosau ddiwedd mis Gorffennaf.
“Rydym wedi gwneud y penderfyniad caled i gau ein drysau unwaith eto”, meddai Clwb Ifor Bach mewn datganiad.
“Er ein bod yn hyderus bod y mesurau sydd gennym mewn lle yn sicrhau awyrgylch diogel a chroesawgar, mae’r costau sydd ynghlwm â’r staff ychwanegol sydd ei hangen i gydymffurfio gyda’r canllawiau cyfredol, yn ogystal â’r cyfyngiadau newydd ar oriau agor, yn ei wneud yn ariannol anhyfyw i ni barhau i fasnachu.”
Darlithoedd a seminarau dros y we
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi dweud ei bod hi’n disgwyl i brifysgolion ddarparu cyfuniad o ddarlithoedd a seminarau wyneb yn wyneb a dros y we.
“Bydd holl brifysgolion Cymru yn cyflwyno dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn”, meddai wrth y Senedd ddydd Mercher (Medi 23).