Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd rhagor o gyfyngiadau lleol yn dod i rym yng Nghymru.

Bydd Abertawe a Chaerdydd dan glo o 6 yr hwyr ddydd Sul, ac mi fydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym yn Llanelli (nid Sir Gâr gyfan) am 6 yr hwyr dydd Sadwrn.

Yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw dywedodd Vaughan Gething bod achosion wedi cynyddu yn Nghaerdydd ac wedi “cynyddu yn gyflym” yn Abertawe.

Dywedodd hefyd mai Llanelli sydd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd mewn achosion yn Sir Gâr – mae wyth o bob deg achos yn y sir yn gysylltiedig â thre Llanelli.

Bydd pobol yn y tri lle yn methu gadael yr ardaloedd “heb esgus rhesymol”, a fyddan nhw ddim yn cael cwrdd tu fewn ag unrhyw un dydyn nhw ddim yn byw â nhw.

Manylion pellach

Gyda Llanelli, dim ond y “ward” fydd dan glo, sy’n golygu na fydd Porth Tywyn yn dod dan y cyfyngiadau. Bydd modd gwirio os ydych yn rhan o’r ward trwy borwr cod post ar-lein.

Wrth gyhoeddi’r cyfyngiadau, dywedodd Vaughan Gething bod cymdeithasu wedi cyfrannu at y cynnydd yn y tri lle.

“Dylai bobol yng Nghaerdydd ac Abertawe osgoi mynd dros ben llestri y penwythnos hwn,” meddai Vaughan Gething wrth gyhoeddi cyfyngiadau dydd Sul.

Gweddill Cymru

Dros y penwythnos bydd Llywodraeth Cymru yn “ystyried” codi cyfyngiadau yng Nghastell-Nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, a Thorfaen.

Yn siarad am y gogledd, dywedodd y gweinidog bod yna sefyllfa “gymysg”, a bod yna dystiolaeth o gynnydd mewn achosion mewn rhai ardaloedd.

Ond ategodd bod achosion yno “ar y cyfan yn llawer is nag yn y de”.