Mae heddwas wedi ei saethu yn farw gan ddyn oedd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Croydon, Llundain.

Cafodd yr heddwas gwrywaidd, a oedd wythnosau yn unig o fedru ymddeol, ei saethu bum gwaith.

“Am oddeutu 02.15 fore dydd Gwener, Medi 25 cafodd y swyddog ei saethu gan ddyn a oedd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn ein canolfan yn Croydon”, meddai heddlu Scotland Yard, mewn datganiad.

“Fe wnaeth swyddogion a pharafeddygon ei drin yn y fan a’r lle a chafodd ei gludo i’r ysbyty. Bu farw yn yr ysbyty yn fuan wedi hynny.

“Rydym yn y broses o roi gwybod i deulu’r swyddog ac mae swyddogion arbenigol yn eu cefnogi.

“Cafodd dyn 23 oed a oedd yn cael ei gadw yn y ddalfa ei gludo i’r ysbyty hefyd gyda chlwyf gwn ac mae’n parhau i fod mewn cyflwr critigol.

“Ni ryddhawyd unrhyw arfau tanio heddlu yn ystod y digwyddiad.”

Ymateb y Prif Weinidog

Mewn ymateb i’r digwyddiad dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson: “Mae gennym ddyled enfawr i’r rhai sy’n peryglu eu bywydau i’n cadw ni’n ddiogel.”

“Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn mynd at deulu, ffrindiau a chydweithwyr yr heddwas a laddwyd yn Croydon neithiwr.”