Byddai “llawer o bobol” – yn y gogledd yn enwedig – yn dathlu pe bai datganoli yn “dod i stop sydyn”.

Dyna mae Darren Millar, Dirprwy Gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod o’r Senedd Gorllewin Clwyd, yn ei ddweud mewn blog diweddar i wefan Gwydir.

Yn y darn mae’n canu clodydd ‘Bil y Farchnad Fewnol’, sef mesur sydd wedi ennyn cryn feirniadaeth gan Lywodraeth Cymru a chenedlaetholwyr.

Mae rhai’n gofidio y bydd y mesur yn dwyn pwerau oddi ar Senedd Cymru, ond yn ei ddarn mae’r Tori yn wfftio hynny – ond mae hefyd yn awgrymu y byddai’r Cymry yn ddigon hapus pe bai hynny yn digwydd.

“Mae’r Bil yn cael ei alw’n ‘ymosodiad ar ddemocratiaeth’, ‘ras i’r gwaelod’, yn ‘ymgais anferth i gipio pŵer’,” meddai. “Ac mae rhai yn dweud ei fod yn mynd i ‘danio diwedd datganoli’.

“Ac er nad ydw i’n cytuno â’r disgrifiadau yma o’r Bil, does gen i ddim amheuaeth y byddai llawer o bobol, yn enwedig yma yng ngogledd Cymru, yn dathlu pe bai cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod â 20 mlynedd o ddatganoli i stop sydyn,” meddai.

“Nid hoelen yn arch datganoli mo’r Bil,” meddai wedyn. “Mewn gwirionedd, byddai’n trosglwyddo llu o bwerau newydd yn syth o Frwsel i Gymru. Nid ymgais i gipio pŵer yw hyn.”

Beth yw’r Bil?

Nod ‘Bil y Farchnad Fewnol’, yn ôl Llywodraeth San Steffan, yw sicrhau na fydd ffiniau mewnol – rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft – yn rhwystro masnach oddi fewn i’r Deyrnas Unedig wedi Brexit.

Ond mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi gwylltio oherwydd byddai’r Bil yn gadael i Lywodraeth San Steffan ymyrryd mewn meysydd sydd dan eu rheolaeth nhw.

Enghraifft amlwg o hyn yw’r cyfyngu ar allu llywodraethau datganoledig i newid eu safonau bwyd.

Mae yna bryderon hefyd y byddai Llywodraeth San Steffan yn medru gorfodi prosiectau ar Gymru – fel prosiect ffordd liniaru’r M4, er enghraifft – yn sgil pasio’r Bil.

Cydweithio â San Steffan

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn anghydweld tros fater yr M4, ac mae Darren Millar yn gresynu at hyn yn ei ddarn.

Mae yntau’n cydweld â’i blaid yn Llundain, ac mae’n credu ei fod yn hen bryd cael llywodraeth ym Mae Caerdydd sydd yn cydweld â gweinidogion San Steffan.

“Rhaid i ni roi diwedd ar yr agwedd yma o anghytuno jest er mwyn anghytuno,” meddai.

“Mae pobol yn ysu am Lywodraeth Cymru newydd gyda ffordd newydd o weithio, a llywodraeth a fydd yn cydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig – ni waeth ei lliw – tros fuddion Cymru.”