Mi fydd dwy o gantoresau amlyca’ Cymru yn trafod trio cael babi, yn y rhifyn cynta’ o gyfres newydd o bodlediadau sy’n mynd i’r afael â phynciau dyrys bywyd.
Ym mhennod gynta’ DEWR, sydd ar gael ddydd Sul, mae Tara Bethan ac Elin Fflur yn trafod y profiad o geisio beichiogi.
Mae Tara Bethan wedi priodi Wil Roberts, cerddor sy’n drymio yn Lleden, y band y mae hi yn canu ynddo.
Ac ar drothwy rhyddhau’r podlediad, mae hi wedi bod yn sôn wrth golwg360 am eu profiadau yn ceisio cychwyn teulu.
“Dw i’n briod ers dros ddwy flynedd bellach ac mae’r cwestiwn ‘pryd ydach chi’n mynd i gael babis ta?’ wedi codi SAWL gwaith.
“Ond fel person sy’n aml yn ystyried fy hun (ac wedi cael fy labelu gan rai) fel “over sharer”, dw i’n ei ffendio hi’n hawdd iawn i ateb efo’r gwir: ‘Rydan ni’n trio ein gora’… amser a ddengys gobeithio!’”
DEWR
Mi fydd deg o westeion gwahanol yn trafod popeth o golli rhieni a galar, i iselder ac alcohol ar y podlediadau DEWR.
Ac mae Tara Bethan yn grediniol bod trafod pynciau sydd yn aml yn mynd heb sylw, yn bwysig.
“Dw i yn berson agored iawn, wastad wedi bod, sef un o’r rhesymau pam bod DEWR mor bwysig i mi. Dw i’n ffan mawr o’r dywediad ‘a problem shared is a problem halved’.
“Ond dw i’n ymwybodol nad ydi pawb yr un mor cîn i rannu. Dw i’n adnabod GYMAINT o ferched sydd yn, neu sydd wedi cael trafferth i feichiogi. A tydi pawb ddim eisiau trafod eu bywydau personol efo pa bynnag randomer sy’n busnesu mewn i’w sex life nhw!
“Mae Elin MOR ddewr i fod yn rhannu ei phrofiadau uffernol o anodd efo’r byd. Dw i’n gwybod ei bod hi wedi ac yn dal i helpu pobl sy’n mynd drwy brofiadau tebyg, i deimlo’n llai unig, i beidio â theimlo cywilydd ac i’w cefnogi i feddwl ei bod hi’n ok i siarad am eu sefyllfaoedd. Dw i jyst mor ddiolchgar iddi am fod mor agored a manwl yn ein sgwrs. Fe wnaethon ni chwerthin, fe wnaethon ni grio. Mae hi yn berson amazing ac yn ffrind dw i’n teimlo’n lwcus iawn o’i chael.”
Bydd y bennod gydag Elin Fflur ar gael ddydd Sul ar AM, Y Pod, Apple Podcast, Google Podcasts, Spotify a’r holl blatfformau arferol
Yn y fideo yma, mae Elin Fflur yn sôn wrth Tara Bethan am yr ymateb gafodd hi ar ôl gwneud rhaglen am ei thriniaeth IVF: