Cafodd Gŵyl Newydd 2020 ei chynnal yn ddigidol ddydd Sadwrn (Medi 26), gan ddenu 2,000 o wylwyr.
Dyma’r trydydd tro i’r ŵyl, sydd wedi ei lleoli yng Nghasnewydd, gael ei chynnal.
Fel gyda nifer o wyliau eraill eleni, doedd dim posib cynnal y digwyddiad yn fyw yng Nghanolfan Gelfyddydau Glanyrafon, ond cafodd ei chynnal yn ddigidol ar AM.
Yr arlwy
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu yn wirfoddol, gan ganolbwyntio ar holl agweddau’r celfyddydau gyda Chornel Cerdd, Cornel Crefft a Chornel Clonc yn rhan o’r digwyddiad.
Cafodd gwylwyr eu cyflwyno i drafodaethau, cyfweliadau a pherfformiadau, yn ogystal ag adloniant i blant yn ystod y dydd.
“Dwi’n teimlo fel bod llwyddiant gwyliau cenedlaethol fel Tafwyl yn rhoi’r hyder i wyliau llai i addasu eu hunain a chynnig platfform i rai o gynhyrchwyr creadigol gorau’r wlad,” meddai Owain Elidir Williams, un o’r trefnwyr.
Roedd Mellt, Fflur Dafydd a Sorela ymysg y cyfranwyr a ffilmiodd fideos o flaen llaw, a rhoddodd yr ŵyl blatfform i arlunwyr megis s_m_e_i.
“Er bod ambell her wedi’n hwynebu wrth gwrs, mae cynnal yr ŵyl yn ddigidol wedi cyflwyno ambell i fantais lle na fyddai’n bosib pe byddai hi wedi’i chynnal yn y ffurf arferol – er enghraifft sylw ehangach a chael ein gosod law yn llaw â gwyliau sydd â hanes cyfoethog tu ôl iddynt,” meddai Owain Elidir Williams wedyn.
“Mae hi’n braf gallu gwahodd cynulleidfa ddigidol eleni. Llafur cariad pur!”
2,000 o wylwyr “wir yn arbennig”
“Mae’r ymateb wedi bod yn grêt, gwyliwyd yr ŵyl gan dros 2,000 o bobol sydd wir yn arbennig,” meddai.
“Roedd hi’n hyfryd dilyn y cwbl ar ein cyfrifon cymdeithasol a gweld ffrwyth ein llafur drwy ymateb digidol.
“Mae gweld bod cymaint wedi ymuno yn yr ŵyl, gydag ambell un o America a Tsiena, yn dyst bod modd addasu dan yr amgylchiadau presennol a bod cynulleidfa eang yn perthyn i gelfyddydau Cymru.
“Mae’r ffigurau’n awgrymu bod gwerth mewn parhau i baratoi arlwy ddigidol yn bell wedi i bryderon ynglŷn â Covid dawelu.
“Mae ein dyled ni i dîm arbennig PYST/AM am gynnig cartref digidol i holl wyliau Cymru, boed yn ŵyl genedlaethol fel Tafwyl neu’n ŵyl leol fel Gŵyl Newydd.”
Mae’r holl arlwy ar gael i’w wylio ar sianel AM.