Bydd cylchgrawn Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru yn cynnal digwyddiad creadigol digidiol “nas gwelwyd mo’i debyg o’r blaen” er mwyn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.

Fel rhan o ddigwyddiad 24:24, bydd 24 artist o bob math yn ymateb i’r thema ‘Gweledigaeth’ dros gyfnod o 24 awr, gydag un artist bob awr rhwng 12yh ar 1 Hydref hyd at 12yh ar Hydref 2.

Bydd pob artist, boed yn awdur, darlunwr, dawnsiwr, dramodydd neu’n gerddor, yn defnyddio’u hawr eu hunain i ymateb i waith yr awr flaenorol “fel rhyw fath o ras gyfnewid greadigol”.

Bydd yr holl gynnwys ar gael i’w weld ar gyfryngau cymdeithasol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r trefnwyr yn annog y gynulleidfa i gyfrannu i’r “clytwaith datblygu” drwy greu eu hymatebion eu hunain i’r thema ‘Gweledigaeth’.

Ymhlith y cyfranwyr mae Dylan Huw, Elan Elidyr, Yasmin Begum, Rhys Aneurin ac Eädyth Crawford.

“Sbin newydd ar syniad yr ‘Her 100 Cerdd'”

Mae’n bwysig “peidio gosod disgwyliadau gormodol ar y criw fydd wrthi,” esboniodd Iestyn Tyne, un o olygwyr Y Stamp.

“Mi fydd pawb yn gweithio dan bwysau am gyfnodau byr, ac felly mi fydd hi’n ddifyr gweld sut mae artistiaid gwahanol, a phobol sy’n gweithio o fewn disgyblaethau amrywiol, yn ymateb i hynny.

“Mi fydd yn rhaid i bobol beidio bod yn rhy hunanfeirniadol, ac mi fydd hi’n ddifyr gweld sut mae hynny’n effeithio ar arddull pobol, a’r themâu sydd dan sylw,” meddai Iestyn Tyne wrth golwg360.

“Ein gobaith pennaf ydy y bydd o’n arbrawf difyr y bydd modd i bobol ei ddilyn ac ymgysylltu ag o ar y we trwy gydol y 24 awr, ac y bydd gennym ni gadwyn neu glytwaith creadigol arbennig ac unigryw i’w arddangos erbyn diwedd yr Her.”

Ers 2012 mae Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 cerdd dros 24 awr er mwyn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, gyda’r beirdd yn dod at ei gilydd yng Nghanolfan Tŷ Newydd i farddoni.

“Sbin newydd ar syniad yr Her 100 Cerdd ydy hwn, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n ffrindiau yn Llenyddiaeth Cymru am y gwahoddiad i drefnu am eleni,” diolchodd Iestyn Tyne.

“Mae barddoniaeth yn parhau yn elfen bwysig iawn o’r hyn fydd yn digwydd, ond bydd cyfle eleni i blethu cyfansoddiadau geiriol â darnau celfyddydol gweledol, dawns, sain ac ati.

“Logistical nightmare!”

Pwysleisiodd fod Y Stamp yn “benderfynol o dynnu cymaint â phosib o bobol i mewn i’r prosiect â phosib – felly dyna pam mai 24 dewr sy’n ymgymryd â’r her eleni yn hytrach na’r 4 arferol.”

“Fel lot o brosiectau’r Stamp” mae’r profiad o weithio gyda chymaint o wahanol artistiaid wedi bod yn “logistical nightmare!” cyfaddefodd Iestyn Tyne.

“Mae’r curadu a’r trefnu wedi digwydd dros gyfnod byr iawn, sydd wedi rhoi pwysau ond hefyd momentwm i’r gwaith.

“Mae’r holl gyfranwyr – rhai yn hen gyfarwydd â chyhoeddi ac eraill yn enwau cwbl newydd i’r Stamp – yn artistiaid arbennig, a gallwn ni ddim aros i weld beth fydd canlyniadau eu 24 awr o waith.”