Mae Emyr Humphreys, y bardd a’r nofelydd o fri, wedi marw yn 101 oed.
Yn enedigol o Drelawnyd, ger Prestatyn, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd y Rhyl, cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Cafodd ei ysgogi i ddysgu’r Gymraeg yn sgil llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth ym 1936, pan ddechreuodd ymddiddori yn yr iaith.
Cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a threuliodd gyfnod yn gwneud gwaith dyngarol yn yr Aifft a’r Eidal yn hytrach nag yn ymladd.
Wedi’r rhyfel bu’n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio efo’r BBC, ac fel darlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.
Yn y 1970au cafodd ei garcharu am wrthod prynu trwydded deledu fel protest yn erbyn diffyg lle a statws y Gymraeg ar y teledu.
Yn ystod ei yrfa lenyddol cyhoeddodd Emyr Humphreys dros ddau ddwsin o nofelau – megis The Toy Epic, a gyfieithwyd i’r Gymraeg fel Y Tri Llais, a chyfres The Land of the Living.
Yn ogystal, roedd yn awdur dramau, a cherddi ac ysgrifau diwylliannol nodedig, yn ymgyrchydd diwylliannol eofn, ac yn gynhyrchydd radio a theledu arloesol.
Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, ym 1992 a 1999, ac yn 2004 fo oedd y cyntaf i ennill gwobr Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru.
“Un o’r mawrion llen mwyaf yn ein hanes”
Wrth dalu teyrnged, dywedodd yr Athro M. Wynn Thomas, Athro Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, a deiliad Cadair Ysgrifennu Saesneg Cymru Emyr Humphreys fod y bardd a’r nofelydd yn “un o’r mawrion llen mwyaf yn ein hanes” a bod ei golli’n “yn golygu colli amddiffynydd ymroddedig a llinyn mesur gwerthfawocaf ein diwylliant llen”:
“Roedd Emyr Humphreys yn blentyn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn un o’r mawrion llen mwyaf yn ein hanes hen, a’i yrfa ddisglair fel awdur o fri cydwladol yn rhychwantu saith deg o flynyddoedd.
“Disgrifiodd ei arwr Saunders Lewis fel ‘ffigur anhepgor,’ ac roedd yr un yn wir amdano yntau. Fe adnabuwyd ei ddawn gyntaf gan Graham Greene, ac aeth yn ei flaen i weithio gyda Richard Burton, Sian Phillips a Peter O’Toole. Ymhlith ei ffrindiau roedd R.S.Thomas, Kate Roberts a John Gwilym Jones ac roedd ei gariad at yr Eidal yn ail agos i’w gariad at Gymru.
“Roedd yn Gymro Ewropeaidd, ac yn awdur a ddylanwadyd gan fawrion llen Cyfandirol. Fe welai fod y diwylliant Cymraeg dan fygythiad cyson yn y byd modern, a sylweddolodd ei fod felly yn rhannu cyflwr pobloedd ‘ymylol’ dros y byd.
“Ef oedd cynrychiolydd olaf y cyfnod euraidd yn ein hanes pryd y gwnaeth cynifer o’n llenorion pennaf ni ymrwymo i wasanaethu Cymru.
“Mae ei golli yn golygu colli amddiffynydd ymroddedig a llinyn mesur gwerthfawocaf ein diwylliant llen.
“Heddwch i’w lwch, a boed i’n cof amdano fyth bylu.”
*