Gyda’r newyddion fod Emyr Humphreys, y bardd a’r nofelydd o fri, wedi marw yn 101 oed, dyma ailgyhoeddi erthygl yn dathlu ei gyfraniad a gyhoeddwyd yn Golwg ar Ebrill 11, 2019, i ddathlu ei ben-blwydd yn gant oed…
*
Mae’r ffaith bod Emyr Humphreys newydd orffen darllen War and Peace rai wythnosau cyn ei ben-blwydd yn 100 oed yn dweud cyfrolau am yr awdur.
Nofel fawr Tolstoy yw un o’r rheiny y mae pawb eisiau ei darllen, ond byth yn gwneud. Ond dyma’r pumed tro i’r llenor o Brestatyn, sydd wedi ysgrifennu dros ddau ddwsin o nofelau a sawl cyfrol o straeon byrion, ei darllen hi. Yn ôl ei fab, mae hefyd wedi bod yn darllen llyfrau Henry James, ei hoff nofelydd, yn ddiweddar.
Cyhoeddodd Emyr Humphreys ei lyfr ‘olaf’, The Woman at the Window, sef casgliad o ddeuddeg o storïau byrion, yn 2009 ar achlysur ei ben-blwydd yn 90 oed. Ond mae Gwasg Prifysgol Cymru newydd gyhoeddi cyfrol o’i gerddi, Shards of Light, ar ôl i’r teulu ddod o hyd i ddarn o bapur “efo sgribl arno fo”. Buodd ei fab, y cynhyrchydd teledu Dewi Humphreys, yn chwilota yn stydi ei gartref yn Llanfairpwll, Môn, lle mae’r llenor yn byw ar ei ben ei hun ers i’w wraig, Eleanor, farw yn 2010, a pharatoi’r cerddi at y Wasg.
Myfyrdodau byr ydyn nhw; pelydrau byr treiddgar gan lenor yn pendroni ar henaint a chyflwr y byd. Mae ganddo agwedd ddi-lol tuag at heneiddio, fel yn y gerdd ‘Taking Off’:
‘He shivers at the prospect of
another springHis brain may bounce about
Sustained by friction, his bones
Know better…’
Bydd Emyr Humphreys yn gant oed ddydd Llun, Ebrill 15, ac mae ambell ddigwyddiad wedi ei drefnu i nodi’r achlysur gan gynnwys cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe i ddathlu ei gyfraniad di-dor i lenyddiaeth Cymru ers y 1950au.
Ac mae Gwasg Prifysgol Cymru newydd gyhoeddi llyfr ar Emyr Humphreys yn y gyfres ‘Writers of Wales’. Mae’r golygydd, yr ysgolhaig a llenor M Wynn Thomas, yn ei gyflwyniad i Shards of Light, yn cyfeirio at nofel Emyr Humphreys o 1965, Outside the House of Baal, fel ‘y nofel bwysicaf am Gymru yn yr iaith Saesneg i gael ei sgrifennu hyd yn hyn.’
‘Y tad a’r mab’
Gan nad yw’r awdur yn ddigon cryf i gynnal cyfweliad ar hyn o bryd, ei fab, y cyfarwyddwr teledu Siôn Humphreys, sy’n siarad â Golwg ar ei ran.
“Cwestiynu” mae Emyr Humphreys yng ngherddi Shards of Light, yn ôl ei fab – ac mae crefydd a’r capel yn bwrw’u cysgod ar feddyliau’r bardd, fel y mae profiadau bob dydd a henaint.
“Mae wedi treulio’i oes yn meddwl pa mor bwysig ydi’r capel i’r iaith ac i Gymru fel cymdeithas, fel rhywbeth sydd wedi dal pawb at ei gilydd,” meddai Siôn Humphreys. “Mae dirywiad y capel yn amlwg yn ei weld yn dirywio cymdeithas, dydi?
“Un peth y mae o wedi dweud erioed ydi – y ffaith bod y gair ‘awdur’ yn dod o ‘awdurdod’ – authority – a bod hynny’n rhywbeth y mae o’n dioddef ohono fo, yn ogystal â gwasanaethu.
“Fedar o ddim peidio â sgrifennu nofelau. Fedar o ddim peidio â dod adra’ o Lundain pan oedd o’n ddyn ifanc. Roedd rhywbeth yn ei yrru fo. Yn fanna roedd yr awen, mewn ffordd. Dyna beth oedd ganddo fo i’w ddweud – ac roedd hwnnw yn dod drwyddo fo, o’i brofiad fel Cymro.”
Er ei fod yn genedlaetholwr a oedd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, fel ei gyfaill RS Thomas y cyfeiriodd ato fel ‘the supreme interpreter of Welsh life in English, Saesneg oedd yr iaith a ddewisodd Emyr Humphreys i fynegi ei hun. Dyna yw iaith ei nofelau, ar wahân i nofel fer Y Tri Llais yn 1958, ac ambell i gerdd yn ei henaint.
Ond yn ôl Siôn Humphreys, mae ei dad wedi sgrifennu o leiaf 16 o ddramâu teledu Cymraeg i S4C.
A Ffilmiau Bryngwyn, cwmni’r mab, oedd yn gyfrifol am gynhyrchu Byw yn Rhydd (1987), Angel o’r Nef (1985), a Cwlwm Cariad (1986). Roedd llawer ohonyn nhw’n ymdrin â’r Mabinogi, neu lenorion Cymru, fel The White Road (1988), gyda Iola Gregory yn actio Kate Roberts.
“Bob tro roedden ni’n cael cyhoeddusrwydd ar y sianel, roedden nhw’n dweud ‘y tad a’r mab’ a hynna yn ddiddiwedd,” meddai Siôn Humphreys. “Mi ddigwyddodd; yn hunanol i fi, achos roedd gen i ddiddordeb mawr yn y maes. Dw i’n fwy balch o fod wedi cael y cyfle o weithio efo fo. Fedra’ i ddim gwneud dim byd am fod yn fab iddo fo!”
Byddai’r ddeialog ar brydiau yn heriol, a’r cynhyrchydd ifanc 30 oed weithiau yn gorfod cwestiynu ei dad. “Pan fyddwn i’n dweud, ‘mae hwnna’n rhy athronyddol, neu’n rhy anodd’, weithiau mi fasa fo’n dweud, ‘ocê, mi wna i feddwl am y peth,’ ond weithiau mi fasa fo’n dweud, ‘dos i ffwrdd, a’i ddarllen o eto’. Roedd o’n gwybod nad o’n i wedi dal i fyny efo fo.”
Syndod yw deall bod Emyr Humphreys wedi sgrifennu fersiwn Gymraeg o’i nofel fawr Outside the House of Baal, ar ffurf cyfres deledu, a bod Siôn Humphreys wedi ei chynnig i S4C yn lled ddiweddar, heb lwc.
Outside the House of Baal yw’r un a werthodd orau o’i nofelau, ond mae ei fab o’r farn bod ei gyfres o saith nofel, Land of the Living, am y cymeriad Amy Parry, hefyd yn glasuron. Cafodd yr olaf yn y gyfres, Bonds of Attachment, ei chyhoeddi yn 1991. Llyfr arall o bwys o’i eiddo yw The Taliesin Tradition (1983), sy’n trafod hanes Cymru drwy ei llenyddiaeth Gymraeg. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, yn 1992 a 1999, ond mi wnaeth ei farc yn llawer cynt na hynny.
Magwraeth a throi at y Gymraeg
Saesneg oedd iaith yr aelwyd yng nghartref Emyr Humphreys ym Mhrestatyn pan oedd yn blentyn. Roedd ei dad wedi ei fagu yn fab i chwarelwr o Flaenau Ffestiniog, ond wedi troi oddi wrth Anghydffurfiaeth ei blentyndod at Anglicaniaeth, ac o’r Gymraeg at y Saesneg.
Menyw annibynnol, llawn bywyd, oedd ei fam sydd wedi ysbrydoli sawl cymeriad benywaidd yn ei nofelau, yn enwedig Lydia yn Outside the House of Baal.
Yn ei arddegau hwyr, ar ôl digwyddiad llosgi Penyberth yn 1936, y dechreuodd ddysgu Cymraeg. A dan ddylanwad ei brifathro yn Ysgol Sirol y Rhyl, TI Ellis – mab y gwleidydd TE Ellis – penderfynodd astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1937.
Yno y daeth i adnabod cenedlaetholwyr brwd, a buodd yn ysgrifennydd cangen myfyrwyr Plaid Cymru am gyfnod. Un oedd yn rhannu tŷ gydag e oedd D Myrddin Lloyd, yr arbenigwr ar lenyddiaeth Geltaidd.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cofrestrodd yn wrthwynebydd cydwybodol a chael ei anfon i weithio ar y tir yn Sir Benfro a Llanfaglan ger Caernarfon lle cyfarfu â’i ddarpar wraig, Elinor. Treuliodd gyfnodau yn yr Eidal, yr Aifft ac yn Llundain, cyn iddo briodi a dychwelyd i Gymru.
Dylanwad arall arno oedd ei gyfaill ysgol, R Tudur Jones, a fu’n weinidog gyda’r Annibynwyr.
Yn ystod ei ddwy flynedd yn dysgu yng Ngholeg Technegol Wimbledon yn Llundain, daeth yn rhan o’r byd llenyddol gan ennyn edmygaeth Graham Greene, ei olygydd cyntaf a’i cymhellodd i ymaelodi â’r Society of Authors. Emyr Humphreys yw eu haelod hynaf heddiw.
Adref i Gymru y daeth yn 1951, i fagu eu plant mewn cymdeithas Gymraeg – ym Mhwllheli am sbel (sef ‘Pendraw’ ei gyfres nofelau Land of the Living) ac yna i Gaerdydd.
Yn ystod ei gyfnod yn adran ddrama BBC Cymru bu’n gyfrifol am gynhyrchu dramâu Saunders Lewis, Siwan, Gymerwch chi Sigaret? Brad ac Esther ac yn gweithio gyda John Gwilym Jones ar ddramâu
Y Tad a’r Mab a Lle Mynno’r Gwynt. Bu’n gweithio gyda sêr amlwg y cyfnod Hugh Griffith, Siân Phillips, Richard Burton a Peter O’Toole.
Cafodd saith mlynedd ym Mhrifysgol Bangor, mewn adran Ddrama newydd o dan yr Adran Saesneg, pan fu’n cynhyrchu dramâu Saunders Lewis a John Gwilym Jones a sefydlodd Cwmni Theatr y Gegin gyda’r dramodydd Wil Sam a’i frawd yr artist Elis Gwyn yng Nghricieth. Yn 1973, cafodd ei garcharu am wythnos ar ôl gwrthod llenwi ffurflen Cyfrifiad am ei bod yn anwybyddu’r Gymraeg, a bu’n gefnogol i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i sefydlu sianel Gymraeg.
Er iddo ennill sawl gwobr am ei nofelau Saesneg, wrth ddychwelyd i Gymru fe ildiodd y llwyddiant mawr y gallai fod wedi ei gael yn Lloegr, yn ôl ei fab.
“Mi oedd yna gyfnod pan oedd o yn Llundain ac wedi ennill gwobrwyon, ac mi fuasai wedi gallu aros, ond mi wnaeth o ddewis dod oddi yno,” meddai Siôn Humphreys. “Roedd o’n gwybod, i fod yn well sgrifennwr, roedd yn rhaid iddo fo ddod nôl.
“Fan yma roedd ei ysbrydoliaeth…. Dydi Cymru ddim yn cyfri (yn Lloegr), ac mae’n rhan o’r maen tramgwydd. Ond mae’r corff o waith yna.
“Mae pawb yn licio cael eu canmol. Dydi o ddim yn rhywbeth sydd wedi digwydd yn aml yn ddiweddar ond dyna fo. Fe wnaethpwyd dewis.”
Yn ei gyfrol olaf o gerddi, Shards of Light, mae’r gerdd ‘Limp Between Two Languages’ yn awgrymu fel y mae’r awdur wedi simsanu rhwng y ddwy iaith:
‘A mind that lives between two languages
Is never made up
And as a preparation for death
That is no bad thing.’
Shards of Light, Emyr Humphreys, Gwasg Prifysgol Cymru
Writers of Wales: Emyr Humphreys, golygydd M Wynn Thomas, Gwasg Prifysgol Cymru