Roedd Aelodau’r Senedd yn ffraeo am bob dim dan haul ddechrau’r wythnos, gyda phethau’n cyrraedd eu hanterth adeg y cyfarfod llawn.

Er gwaetha’r ffaith bod sustem hybrid mewn grym – lle mae rhai Aelodau yn cymryd rhan yn y cnawd, a’r lleill gartref o flaen sgrin – roedd y siambr yn eitha’ gwag ddydd Mawrth.