Mae 2021 yn prysur nesáu ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod etholiad y Senedd yn dod yn fwyfwy poblogaidd fel testun trafod.

Gyda’r argyfwng covid yn dal i rygnu ymlaen, roedd rhywfaint o drafodaeth ar ddechrau’r wythnos ynghylch sut a phryd y bydd yn cael ei gynnal.

Yn siarad ar y rhaglen ITV Sharp End rai wythnosau yn ôl, pwysleisiodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, na fyddai’r etholiad yn un arferol, ond ei fod yn credu y dylai fynd rhagddo ym mis Mai.