S’dim hobi ’da fi. Sai’n credu bo fi erioed wedi cael un. Ddim un go-iawn. Dyw ‘darllen papur’, ‘watsho teli’, ‘watsho ffwtbol’ a ‘mynd i’r pyb’ ddim yn cyfri yn niffiniad y golofn fach yma ichi ga’l deall: dw i’n sôn am hobi gwerth chweil. Neud rhwbeth. Fel Julian Lewis Jones a’i bysgota. Jyst… ddim pysgota, ddim ifi – dw i ddim am fynd i ddal pysgod tra bo rhywun yn fodlon dal nhw i fi.