Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhy selog yn erbyn Brexit, a dylen nhw fod wedi derbyn y canlyniad yn gynt.

Dyna mae Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru, wedi ei ddweud wrth Bwrlwm yn sgil cynhadledd rithiol ei phlaid.

“Roedden ni heb wrando ar bobol,” meddai. “Yng Nghymru yn enwedig, roedden nhw’n glir eu bod nhw eisiau mynd allan o’r Undeb Ewropeaidd.