Mae’r diddordeb mewn pysgota wedi cynyddu yn aruthrol yn ystod y cyfnod clo, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd. Ac mae’r actor, cyflwynydd a’r pysgotwr brwd, Julian Lewis Jones, wedi bachu ar y cyfle i gyflwyno’r grefft i’w gyfaill, yr actor Ryland Teifi, mewn cyfres newydd ar S4C, Pysgod i Bawb…