Mae ITV wedi dweud bod I’m A Celebrity… “yn parhau i gadw at yr holl ganllawiau perthnasol” ar ôl i’r ardal yn y Gogledd lle bydd yn cael ei ffilmio gael ei rhoi o dan gyfyngiadau clo newydd.

Mae’r sioe wedi cael ei ffilmio yn Awstralia ers iddi ddechrau ar ITV am y tro cyntaf yn 2002 ond eleni caiff ei ffilmio yng Nghastell Gwrych yng Nghonwy o ganlyniad i’r pandemig.

Disgwylir i’r 20fed gyfres ddechrau cael ei chynhyrchu yn ddiweddarach yr hydref hwn.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cloeon lleol newydd, gan gynnwys yng Nghonwy, a fydd yn dod i rym o 6pm ddydd Iau (1 Hydref).

Mae’r cyfyngiadau newydd yn golygu na chaniateir i bobl o’r ardaloedd dan sylw fynd i mewn nac allan o’r ardaloedd heb esgus rhesymol, megis teithio i’r gwaith neu addysg, a dim ond yn yr awyr agored y byddant yn gallu cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw.

Fodd bynnag, mae’r cyngor yng Nghonwy yn berthnasol i aelwydydd – nid i fannau gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV: “Mae I’m a Celebrity yn parhau i gadw at yr holl ganllawiau perthnasol yn ogystal â’n protocolau Covid llym ein hunain.”