Mae un o ganeuon albwm ddiweddara’r band wedi ei ffrydio chwarter miliwn o weithiau…

Fis yma, er gwaetha’r cyfyngiadau, mae’r Eira wedi cael chwarae gig flasus mewn awyrgylch anarferol ar y naw.

Fel rhan o Ŵyl Fwyd Ddigidol Amgueddfa Cymru, fe gawson nhw eu ffilmio yn perfformio set o ganeuon yn un o gytiau llychlud Amgueddfa Lechi Llanberis.