Yn ystod y cyfnod clo, mae’r artist Meirion Ginsberg wedi troi at baentio ei deulu, yn arbennig ei fab bach tair oed.

Ac wrth baentio llun o’i blentyn mewn cae poeth yng ngwanwyn y pandemig, a’r syrffed ar wyneb y bachgen yn cyferbynnu’n dost â’i grys-t Toy Story hwyliog, mae’r artist wedi darlunio llun y locdown.