Mae cynnig yn galw am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru, fel sy’n digwydd yn yr Alban, wedi cael ei basio’n unfrydol gan gynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin.
Byddai datganoli Ystad y Goron yn galluogi Cymru i elwa yn sgil prosiectau ynni gwynt oddi ar y lan, medden nhw, yn hytrach na bod yr arian yn mynd i Drysorlys y Deyrnas Unedig.
Mae Ystad y Goron yn rheoli gwerth £16bn o adnoddau tir a morwrol sydd dan berchnogaeth y brenin neu’r frenhines ar y pryd, yn ôl eu gwefan, ac mae’r holl elw net – sy’n werth £4.1bn dros y degawd diwethaf – yn cael ei ddychwelyd i’r Trysorlys.
Cynnig Plaid Cymru
Dywedodd y cynnig gan Betsan Jones a Meinir James, dwy gynghorydd Plaid Cymru, fod pôl yn 2023 yn dangos bod 75% o boblogaeth Cymru’n cefnogi cymryd rheolaeth dros asedau Ystad y Goron.
“Mae awdurdodau lleol dan bwysau ariannol enfawr, a byddai rhoi Ystad y Goron yn nwylo Cymru’n gam arwyddocaol tuag at fynd i’r afael â’r blynyddoedd o ddiffyg buddsoddi yn ein llywodraeth leol,” meddai’r cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Betsan Jones fod gan Ystad y Goron werth £600m o asedau yng Nghymru, eu bod nhw’n berchen ar 65% o wely’r môr dros bellter o ddeuddeg milltir forwrol, ynghyd ag aber Llwchwr a rhan o afon Tywi.
Mi wnaeth hi honni bod Ystad y Goron wedi ymateb i bwysau diweddar drwy benodi comisiynydd i gynrychioli Cymru, a bod Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig wedi dweud y byddai Cymru’n elw ar brosiectau ynni oddi ar y lan.
“Ond dydy hynny ddim yn mynd yn ddigon pell,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Meinir James fod yr Alban wedi ennill dros £100m y llynedd yn sgil adnoddau Ystad y Goron roedden nhw’n gyfrifol amdanyn nhw, ar ôl i bwerau gael eu datganoli i gyfeiriad y gogledd yn 2017.
Dywedodd swyddog cyfreithiol gyda’r Cyngor fod corfforaeth gyhoeddus dan reolaeth Llywodraeth yr Alban yn rheoli asedau sydd dal dan berchnogaeth y brenin, i bob pwrpas, a bod incwm yn mynd i Lywodraeth yr Alban.
Cefnogaeth
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Plaid Cymru â chyfrifoldeb dros Adnoddau, fod Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi dweud ei fod e’n awyddus i gydweithio â Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ar gynigion allai ddatganoli pwerau dros Ystad y Goron, a bod cefnogaeth hefyd wedi dod gan yr Arglwydd Peter Hain, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru o’r Blaid Lafur.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny ei fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth San Steffan wedi ymateb â chydymdeimlad, ond honnodd fod gweinidog yn Nhrysorlys y Deyrnas Unedig wedi dweud nad oes bwriad ganddyn nhw i ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.
Dywedodd wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ei fod e’n cyfeirio at yr Arglwydd Livermore.
Dywedodd y Cynghorydd John James, Aelod Annibynnol heb gysylltiadau pleidiol, y dylai buddiannau Ystad y Goron ddod i Gymru, fyddai’n galluogi Cyngor Sir Gâr i gynllunio’n bositif at y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Hefin Jones fod Cymru’n allforiwr net o ynni.
“Yn y bôn, mae arian yn ddyledus i ni,” meddai.
Ymateb
Dywed Trysorlys y Deyrnas Unedig fod elw o Ystad y Goron yn cael ei roi ym mhwrs y cyhoedd, gan helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
“Yn rhan o Fil Ystad y Goron, bydd comisiynydd yn gyfrifol am roi cyngor am Gymru i fwrdd Ystad y Goron i sicrhau ei fod yn parhau i weithio er lles Cymru,” meddai llefarydd.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n croesawu penodi comisiynydd, ond eu bod nhw wedi ymrwymo i ddatganoli Ystad y Goron.
“Rydyn ni eisiau sicrhau bod Ystad y Goron yn gweithio er lles Cymru, ac mae swyddogion wedi cynnal trafodaethau cychwynnol â’u cydweithwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar agenda diwygio’r cyfansoddiad,” meddai llefarydd.
“Bydd y rhain yn parhau i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a’r buddiannau i Gymru.”
Dywedodd Llywodraeth yr Alban fod cymryd rheolaeth dros adnoddau Ystad y Goron yn golygu bod penderfyniadau bellach yn cael eu gwneud yn yr Alban er lles y wlad.
Mae enghreifftiau’n cynnwys rowndiau prydles gwynt oddi ar y lan a £50m oedd wedi cael ei raeadru i awdurdodau lleol er lles cymunedau arfordirol.
“Mae Ystad y Goron yr Alban yn cefnogi gweithredu blaenoriaethau gweinidogol, yn enwedig yn nhermau ein helpu ni i wireddu’r cyfleoedd niferus sy’n bodoli ar gyfer twf economi les decach a gwyrddach, ac o ran sut rydyn ni’n ymateb i newid hinsawdd, yn gweithredu yn ei erbyn ac yn addasu iddo.”