Mae Plaid Cymru yn dweud eu bod nhw’n ceisio rhoi llais i Gymru drwy gynnig gwelliant i Fil y Farchnad Fewnol.

Bydd y gwelliant, sy’n sicrhau pwerau i Senedd Cymru yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth, yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Medi 22).

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, y byddai’r gwelliant yn cynnig “dôs angenrheidiol o ddemocratiaeth” i’r Bil.

Manylion

Fel ag y mae ar hyn o bryd, mae Bil y Farchnad Fewnol yn atal llywodraethau datganoledig rhag deddfu’n effeithiol gan ei fod yn gorfodi i safonau rheoli un rhan o wledydd Prydain gael eu derbyn yn awtomatig mewn rhannau eraill, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod y safonau yn disgyn.

Bydd y Bil yn rhoi’r grym i Lywodraeth Prydain wario arian mewn ardaloedd datganoledig heb ofyn i’r llywodraethau hynny.

Yn ogystal, bydd y Bil yn addasu’r cytundeb datganoli gan roi’r holl bwerau newydd dros gymorth gwladwriaethol i San Steffan, ac yn atal y llywodraethau datganoledig rhag diwygio’r ddeddf drwy ddeddfau cynradd neu eilradd.

Pan gafodd y Bil ei gyhoeddi, bu ymateb chwyrn iddo ymysg gwleidyddion a sylwebwyr.

Byddai’r gwelliant sy’n cael ei gynnig gan Blaid Cymru yn sicrhau nad yw’r amodau hyn o’r Bil yn dod i rym, ac yn sicrhau nad yw pwerau ychwanegol yn cael eu rhoi i San Steffan yn unig dwy’r Bil, oni bai fod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhoi eu caniatâd.

“Sarhad ar bobol Cymru”

“Yn ei ffurf bresennol, mae Bil y Farchnad Fewnol yn gwneud newidiadau mawr i’r cytundeb datganoli heb ymgynghori o gwbl â’r seneddau datganoledig,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Yn ogystal â bod yn annemocrataidd, mae’n sarhad ar bobol Cymru gan eu bod wedi cefnogi datganoli mewn dau refferendwm ar y trot.

“Os yw’r Ceidwadwyr yn hyderus y bydd y Bil yn creu “ymchwydd o bŵer” i Senedd Cymru, fel maent yn honni’n ddi-gywilydd, yna ni fyddent yn poeni am bleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru heno.

“Rwyf yn erfyn ar holl Aelodau Seneddol Cymru – o bob plaid wleidyddol – i bleidleisio gyda Phlaid Cymru er mwyn amddiffyn pwerau Cymru.

“Byddai methu â gwneud hyn yn gwneud tro gwael â phobol Cymru.”

Daw’r gwelliannau wedi i’r cyn-Brifweinidog, Theresa May, ddweud neithiwr na all hi gefnogi’r Bil.