Bydd cyfnod clo mewn pedair ardal ychwanegol yng Nghymru o 6 o’r gloch heno (nos Fawrth, Medi 22).

Bydd cyfyngiadau newydd yn dod i rym ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd a Blaenau Gwent.

Byddan nhw’n ymuno â Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, sydd eisoes dan gyfyngiadau llym.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fe fu “cynnydd pryderus a chyflym” yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn yr ardaloedd hyn, lle mae cyfanswm o ryw 430,000 o bobol yn byw.

Mae’r cyfyngiadau’n golygu na fydd gan bobol yn yr ardaloedd hyn yr hawl i adael heb reswm dilys, ac na fydd modd iddyn nhw gyfarfod â phobol o aelwydydd eraill yn yr awyr agored, gan gynnwys pobol yn eu haelwydydd estynedig.

Bydd rhaid i bob safle â thrwydded alcohol gau am 11 o’r gloch y nos.

Cyfarfod brys

Yn y cyfamser, bydd cyfarfod brys heddiw (dydd Mawrth, Medi 22) o’r holl awdurdodau lleol, byrddau iechyd a heddluoedd o Ben-y-bont ar Ogwr hyd at y ffin â Lloegr.

Byddan nhw’n trafod yr angen i gyflwyno rhagor o fesurau ar draws y de.

Mae dau glwstwr o’r feirws ym Merthyr Tudful yn ymwneud â thafarn a chyflogwr mawr, ac mae dau glwstwr bach arall.

Mae nifer yr achosion yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i godi, ac mae “pryder cynyddol” am Ben-y-bont ar Ogwr, meddai Vaughan Gething.

Tafarnau a diffyg cadw pellter sy’n cael y bai ym Mlaenau Gwent, ond fe fu achosion sylweddol ymhlith staff cartrefi gofal ac ysgolion uwchradd yno hefyd.

Parti ar ddiwedd mis Awst sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd yng Nghasnewydd, yn ôl pob tebyg.

Ymateb lleol i’r broblem yw’r cyfnod clo newydd, meddai Vaughan Gething, sy’n rhybuddio y gallai ardal ehangach neu hyd yn oed y wlad gyfan ddychwelyd i gyfnod clo maes o law.

Trafodaeth rhwng Mark Drakeford a Boris Johnson

Fe wnaeth Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, drafod y sefyllfa dros y ffôn ddoe (dydd Llun, Medi 21).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Mark Drakeford wedi diweddaru Boris Johnson am y mesurau Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion ac i warchod iechyd y cyhoedd.

Ac fe ddywedodd iddyn nhw gytuno i weithredu gyda’i gilydd fel pedair gwlad lle bo angen.

Bydd Mark Drakeford yn cynrychioli Cymru yng nghyfarfod Cobra heddiw (dydd Mawrth, Medi 22).

Mae nifer yr achosion o’r feirws yng Nghymru ers dechrau’r ymlediad wedi codi i 20,878 erbyn hyn, ond doedd dim marwolaethau newydd yn ystod y 24 awr hyd at y cyhoeddiad dyddiol ddoe, gyda’r ffigwr yn aros ar 1,603.