Mae cwmni Whitbread, sy’n berchen ar westai Premier Inn, am dorri hyd at 6,000 o swyddi o ganlyniad i effeithiau’r coronafeirws ar y diwydiant.

Bydd y toriadau’n effeithio ar 18% o’r holl weithwyr sy’n gweithio yng ngwestai a bwytai’r cwmni, sydd hefyd yn berchen ar dafarnau Beefeater a Brewers Fayre.

Mae gan y cwmni ddwsinau o safleoedd yng Nghymru.

Y gobaith yw y bydd modd cyflwyno diswyddiadau gwirfoddol a gostwng oriau gweithwyr eraill.

Mae’r cwmni’n darogan galw is nag arfer yn y tymor byr a chanolig, gyda chynllun ffyrlo Llywodraeth Prydain yn dod i ben fis nesaf.

Bydd oddeutu 150 o swyddi’n cael eu colli o brif swyddfa’r cwmni erbyn diwedd y flwyddyn.

Er bod y swyddi’n mynd, mae disgwyl i ran fwya’r safleoedd aros ar agor.

Mae gan y cwmni 900 o westai a 350 o fwytai yng ngwledydd Prydain, ond fe gwympodd eu gwerthiant 77.6% yn y chwe mis hyd at Awst 27.

Ond roedd eu gwestai bron â bod 80% yn llawn ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben, gyda’r rhan fwyaf o bobol yn mynd i safleoedd ar lan y môr wrth aros yng ngwledydd Prydain am eu gwyliau yn hytrach na theithio dramor.

Ond mae’r sefyllfa’n wahanol iawn mewn dinasoedd, gyda dim ond hanner yr ystafelloedd wedi’u llenwi, a gwerthiant 47.3% yn is na’r disgwyl.

Fe wnaeth cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan Llywodraeth Prydain helpu’r cwmni i raddau ond gyda’r cyfyngiadau lleol yn dod i rym mewn sawl ardal, mae disgwyl i’r sefyllfa waethygu eto’n fuan.