Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi datgelu fod gan 93 o’r adeiladau sydd dan eu gofal gysylltiadau â chaethwasiaeth hanesyddol â threfedigaethu.
Mae’r cysylltiadau yn cael eu dangos mewn adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan yr elusen fis Medi diwethaf, fel rhan o’u hymdrechion i ddweud hanes trefidigaethu a chaethwasaiaeth drwy eu hadeiladau.
Manyla’r adroddiad ar gysylltiadau â pherchnogion planhigfeydd a’r arian a gafodd ei dalu iddyn nhw pan ddaeth caethwasiaeth i ben, yn ogystal ag amlygu cysylltiadau gydag unigolion a theuluoedd a wnaeth eu harian drwy gaethwasiaeth.
Cysylltiadau â’r Ymerodraeth Brydeinig
Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i adeiladau sydd â chysylltiadau ag unigolion oedd yn gyfrifol am ymestyn yr Ymerodraeth Brydeinig, gan gynnwys arweinwyr Cwmni Dwyrain India ac unigolion fu’n rheoli trefedigaethau.
Yn eu plith mae Chartwell, cartref Winston Churchill, cyn-brif weinidog Prydain.
Un o’r adeiladau sydd yn cael eu crybwyll yw Castell Powys a hynny yn sgil ei gysylltiad â Clive o India, y gŵr a sefydlodd reolaeth Brydeinig yn India yn y ddeunawfed ganrif.
Mae rhagor o hanes y cysylltiadau rhwng Castell Powys ac India, a hanes cysylltiadau Castell Penrhyn â chaethwasiaeth yn Jamaica yma.
Cysylltiadau â chaethwasiaeth
Ymysg yr adeiladau eraill â chanddynt gysylltiadau â chaethwasiaeth mae Clandon Park yn Surrey, a Hare Hall yng Nghaer.
Darganfydda’r adroddiad fod gan 29 o’r eiddo sydd yn ngofal yr Ymddiriedolaeth gysylltiadau â cheisiadau iawndal llwyddiannus yn sgil diweddu caethwasiaeth, adeiladau megis Glastonbury Tor yng Ngwlad yr Haf.
Mae’r adroddiad yn ymdrin ag eiddo roedd pobol oedd yn gysylltiedig â diddymu caethwasiaeth a’r frwydr yn erbyn trefedigaethu yn berchen arnyn nhw, yn ogystal â thynnu sylw at bresenoldeb gweithwyr Affricanaidd, Asiadd a Tsieinïaidd ar ystadau Cymru a Lloegr.
Defnyddia’r adroddiad archifau’r Ymddiriedolaeth ynghyd â thystiolaeth allanol, megis prosiect Legacies of British Slave-owners, a oedd yn cael ei redeg gan Goleg Prifysgol Llundain.
Ymchwilio, dehongli a rhannu gwybodaeth
“Mae’r adeiladau sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn adlewyrchu nifer o gyfnodau gwahanol ac ystod o hanesion Prydeinig a rhynglwadol – cymdeithasol, diwydiannol, gwleidyddol a diwylliannol,” meddai Dr Tarnya Cooper, Cyfarwyddwr Casgliadau a Churadu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
“Mae gan nifer fawr o’r adeiladau sydd dan ein gofal gysylltiadau â threfedigaethu mewn gwahanol rannau o’r byd, a rhai â chysylltiadau â chaethwasiaeth.
“Roedd gwladychu a chaethwasaiaeth yn rhan ganolog o’r economi genedlaethol rhwng y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.”
Ychwanegodd ei bod yn ddyletswydd ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel elusen dreftadaeth, i ymchwilio, dehongli a rhannu gwybodaeth lawn am eu heiddo.
“Hwn yw’r adroddiad llawnaf am y cysylltiadau rhwng y llefydd hyn a threfedigaethu a chaethwasiaeth hanesyddol,” meddai, er ei bod yn cydnabod y gall mwy o ymchwil gael ei wneud.
Mae’r ymchwil wedi ei ddefnyddio i ddiweddaru gwybodaeth ar-lein, a bydd yn cael ei ddefnyddio gan yr Ymddiriedolaeth i asesu’r dehongliadau sydd yn yr adeiladau.