Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydnabod fod rhaid iddyn nhw wneud “llawer mwy” er mwyn adrodd hanes caethwasiaeth a gwladychiaeth.

Mewn datganiad, maen nhw’n dweud bod cyfoeth nifer o berchnogion eu hadeiladau a’u casgliadau “yn uniongyrchol o fod yn berchen ar blanhigfeydd siwgr ac o gaethweision oedd yn gweithio iddynt”.

“Rydym yn gwybod fod nifer o bobol o dras Affricanaidd ac Asiaidd yn byw ac yn gweithio yn ein heiddo,” meddai’r datganiad wedyn.

“Mae gennym lawer mwy o ymchwil i’w wneud i ddatgelu mwy am fywydau’r bobol yma.

“Rhaid i ni roi llais i’r bobol hyn ac adrodd eu straeon yn hytrach na’u cuddio y tu ôl i hanesion a ysgrifennwyd gan, ac ar gyfer, pobol o awdurdod.”

Mae gan y sefydliad cadwraeth safleoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Casgliad Clive yng Nghastell Powis

Arferai nifer o adeiladau a chasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod yn eiddo i swyddogion blaenllaw o Gwmni Dwyrain India, y gorfforaeth a oedd yn gyfrifol am fasnachu caethweision rhwng Ewrop, Asia a’r Dwyrain Canol rhwng 1600 a 1857.

Un o’r swyddogion blaenllaw oedd Robert Clive, ac mae Casgliad Clive yng Nghastell Powis yn arddangos rhai o’r eitemau oedd berchen iddo a’i fab Edward Clive, Llywodraethwr ym Madras a oedd yn gyfrifol am ladd Tipu Sultan.

Mae’r casgliad o eitemau yn cynnwys pabell gwladwriaeth Tipu Sultan a phen teigr aur.

“Mae caethwasiaeth yn bwnc y mae angen ei drin gyda’r gofal a’r sensitifrwydd mwyaf,” meddai’r ymddiriedolaeth.

“Ein nod yw gweithio gyda phartneriaid a chymunedau a dysgu oddi wrthynt fel y gallwn ail-ddangos a dehongli’r eitemau hyn mewn ffordd well, yn hytrach nag yn eu cyd-destunau blaenorol o gelf addurniadol neu arddangosfeydd buddugoliaethus.”

Castell Penrhyn

Adeilad arall yng Nghymru sydd â chysylltiadau â chaethwasiaeth yw Castell a Gerddi Penrhyn ger Bangor.

Etifeddwyd ffortiwn Richard Pennant gan ei deulu a defnyddiwyd ei gyfoeth i adeiladu Castell Penrhyn, sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Roedd Richard Pennant hefyd yn Aelod Seneddol rhwng 1761 a 1784, lle defnyddiodd ei statws i wrthwynebu cael gwared ar gaethwasiaeth.

Eglurodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu bod nhw’n bwriadu cydweithio ag eraill er mwyn datblygu ei dealltwriaeth.

“Ni fydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar ben ei hun i ddatgelu, ymchwilio ac adrodd hanes caethwasiaeth a gwladychiaeth.

“Byddwn yn cydweithio ac yn gwrando ar gymunedau lleol a byd-eang, gan gynnwys sefydliadau sy’n arbenigo mewn hanes lleiafrifoedd, i ymchwilio a datblygu ein dealltwriaeth o’r berthynas bwysig a chymhleth rhwng ein hadeiladau, gwrthrychau a diwylliant a hanes y byd.

“Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio agor dadleuon sy’n hybu ein cyd-ddealltwriaeth, ac yn gwneud ein hadeiladau a’n casgliadau yn berthnasol i gynulleidfaoedd amrywiol.

“Byddwn yn profi ac yn gwerthuso ein dulliau. Rydym yn cydnabod bod llawer o hyn yn newydd i ni, ac ni fydd modd i ni gael bob dim yn iawn bob tro, ond byddwn yn dysgu o’n camgymeriadau.”