Mae Boris Johnson yn dweud nad yw’n sicr beth sy’n arwain at achosion o’r coronafeirws mewn ffatrïoedd cig.

Mae achosion wedi’u cofnodi mewn ffatrïoedd yn Wrecsam, Ynys Môn a Merthyr Tudful, ac yn rhannau eraill o wledydd Prydain hefyd.

Dywed y Prif Weinidog mai un theori yw fod yr “amgylchedd oer mewn ffatrïoedd o’r fath yn helpu’r feirws”, tra ei bod hi’n bosib hefyd fod staff yn “ymgynnull mewn modd sy’n achosi’r feirws i ledaenu”.

Ond mae’n cyfaddef bod ymchwiliadau’n parhau er mwyn ceisio ateb pendant.

Daw hyn wedi i fwy na 150 o achosion gael eu cadarnhau yn ffatri prosesu cyw iâr 2 Sister Llangefni, gyda chlwstwr arall o’r feirws mewn ffatri prosesu cig yn Cleckheaton, Gorllewin Efrog.

“Hyd yn oed mewn gwledydd megis yr Almaen, sydd â rheolaeth dda dros Covid-19, rydym yn gweld achosion o’r feirws mewn ffatrïoedd cig,” meddai Martin Day, Aelod Seneddol yr SNP, wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Felly pa eglurhad mae’r Prif Weinidog wedi ei dderbyn ynghylch hyn a sut yn y byd mae o’n credu y bydd hyn yn gwella wrth lacio’r pellter diogel o ddau fetr i un?”

Ymateb

“Rydym yn edrych ar beth yn union sy’n digwydd mewn ffatrïoedd prosesu cig,” meddai Boris Johnson.

“Dwi ddim yn gwybod beth yw’r achos, ond rydym yn ymchwilio.

“Ond lle bynnag bydd yr achosion yma’n ymddangos, byddwn yn defnyddio technegau clwstwr lleol er mwyn mynd i’r afael â nhw.”