Mae Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Torfaen a llefarydd materion cartref Llafur yn San Steffan, wedi beirniadu ymateb araf Llywodraeth Prydain wrth roi iawndal i ddioddefwyr helynt Windrush.

Daw hyn ar ôl i Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, amlinellu’r cymorth sydd eisoes wedi’i roi.

Mae’n dweud bod mwy na 12,000 o bobol wedi derbyn dogfennau hawl i aros gan weithgor Windrush, gan gynnwys 5,900 o bobol sydd wedi derbyn dinasyddiaeth Brydeinig.

Mae’n dweud bod ceisiadau yn dal i gael eu prosesu’n raddol, gyda channoedd o filoedd o bunnoedd wedi’i dalu allan.

“Dyw fy nyfalbarhad wrth wneud yn iawn am yr anghyfiawnderau ddioddefodd genhedlaeth Windrush heb leihau, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod cymorth i fwy o bobol a bod mwy o bobol yn derbyn iawndal llawn,” meddai.

“Ac os oes angen adnoddau ychwanegol, byddan nhw’n ae leu rhoi.”

Ymateb Nick Thomas-Symonds

Dim ond 60 o bobol oedd wedi derbyn iawndal yn ystod blwyddyn gynta’r gweithredu, yn ôl Nick Thomas-Symonds.

“Siaradodd [Priti Patel] am fwy o gynnydd heddiw ond rhaid ei bod hi’n gwybod fod graddfa’r cynnydd yn rhy araf o ystyried faint o flynyddoedd aeth heibio ers i’r sgandal yma ddod i’r fei, ac eisoes mae’r cynllun hwn wedi bod ar waith ers dros flwyddyn,” meddai.

“Mae cenhedlaeth Windrush wedi cael effaith sylweddol ar bob agwedd ar fywyd cenedlaethol – ein Gwasanaeth Iechyd, ein system drafnidiaeth, y sectorau cyhoeddus a phreifat, y celfyddydau, diwylliant, crefydd a chwaraeon.

“Ond rydym hefyd yn gwybod nad oedd nifer oedd wedi creu bywydau newydd yma wedi cael y croeso roedden nhw’n ei ddisgwyl.

“Fe wnaeth nifer wynebu hiliaeth ofnadwy a chael eu cloi allan o swyddi a chartrefi, ac yn destun sarhad ofnadwy ar y strydoedd.

“Mae’n bosib ein bod ni wedi gobeithio bod yr holl agweddau ar hyn wedi cael eu rhoi yn y gorffennol ond 70 mlynedd yn ddiweddarach, rydyn ni wedi gweld ymateb cryf dros ben i fudiadau Black Lives Matter yn galw am newid yma yn y Deyrnas Unedig, a does dim syndod.

“Mae anghyfiawnderau wedi pentyrru dros y cenedlaethau ac wedi creu rhwystredigaeth a loes calon.”

‘Dw i ddim am ymddiheuro’

Er bod Priti Patel yn dweud ei bod hi’n cytuno, mae hi’n mynnu na fydd hi’n ymddiheuro.

“Dw i’n cytuno, mae’r taliadau a’r ffordd mae’r taliadau wedi cael eu gwneud wedi bod yn rhy araf,” meddai.

“Ond dw i ddim am ymddiheuro am hynny o gwbl.

“Dw i wedi amlinellu yn fy natganiad ei bod hi’n briodol ein bod ni’n trin pob unigolyn â’r parch a’r urddas maen nhw’n eu haeddu.

“Mae’r rhain yn achosion cymhleth.”