Mae’r Arctig yn cynhesu ac mae yna “oblygiadau byd eang” i hynny, yn ôl asiantaeth dywydd y Cenhedloedd Unedig.

Mae Sefydliad Tywydd y Byd wedi rhybuddio bod tymereddau Siberia wedi bod yn 10C yn gynhesach eleni, a bod hynny wedi arwain at danau yng Nghylch yr Arctig.

Ar ben hynny mae rhew oddi ar arfordir gogleddol Rwsia wedi bod yn toddi, ac mae’r sefydliad wedi rhybuddio y bydd goblygiadau ehangach i hyn oll.

Mae’r hyn sydd yn digwydd ar begynau’r ddaear yn effeithio ar dywydd mewn rhannau eraill o’r byd – gan gynnwys ardaloedd poblog.

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu y byddai’r fath gynhesu yn Siberia yn amhosib heb gynhesu byd eang – a chynhesu sydd â gweithgaredd dynol yn sail iddo.