Mae Llywodraeth Cymru’n ymestyn ei rhaglen ar gyfer brechu rhag y ffliw yn sgil y coronafeirws.

Yn ogystal â’r rhai dros 65 oed, menywod beichiog a phobol sydd â chyflyrau iechyd, fe fydd y brechlyn hefyd ar gael i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phawb sy’n byw â rhywun fu’n cysgodi rhag y feirws.

Bydd yr oedran pan fydd y brechlyn yn cael ei gynnig yn cael ei ostwng o 65 i 50, a bydd y Gwasanaeth Iechyd yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n gymwys.

Fe fydd plant dwy neu dair oed hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw trwy’r trwyn, yn ogystal â phlant oedran cynradd.

Ymateb

“Y gaeaf hwn, yn fwy nag erioed, mae angen i ni ddiogelu’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned a pharhau i ddiogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Drwy gynnig y brechlyn rhag y ffliw i fwy o bobol nag erioed o’r blaen, gallwn helpu i atal pobol rhag mynd yn sâl a lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gaeaf hwn.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i gael y brechlyn i’w gael.”

Yn ôl Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, dylai pawb sy’n gymwys deimlo’n hyderus i gael y brechlyn.

“Bydd y rheiny sy’n gymwys yn barod, sy’n cynnwys rhai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, yn cael eu brechu’n gyntaf,” meddai.

“Bydd ein rhaglen, wedyn, yn cael ei chyflwyno’n raddol i unigolion dros 50 oed a phobol sy’n rhannu cartref gydag unigolion sy’n gwarchod eu hunain.”