Dylid enwi datblygiad tai yn ne Cymru ar ôl William Williams Pantycelyn, yn ôl mudiad gwrth-hiliaeth a fydd yn cynnal protest yn erbyn yr enw sy’n cael ei gynnig am y lle.

Mae ‘Stand up to Racism Cardiff’ ar ddeall bod Cyngor Bro Morgannwg yn bwriadu rhoi ‘Ffordd Penrhyn’ (uniaith Gymraeg) yn enw ar ddatblygiad tai yn y fro.

Ac mae’r grŵp yn teimlo bod yr enw yn anaddas am ei fod yn dwyn Arglwydd Penrhyn i’r meddwl, ac felly yn “gyfystyr â hanes cywilyddus Cymru â chaethwasiaeth”.

Yn ymateb i hyn mi fyddan nhwythau a ‘Black Lives Matter Cardiff and Vale’ yn cynnal protest ger swyddfeydd y Cyngor yn y Barri yfory (dydd Sadwrn).

Mewn neges ar eu tudalen Facebook, dywed ‘Stand up to Racism Cardiff’ y dylid enwi’r datblygiad ar ôl William Williams yn lle hynny.

“Dyma gyfle unigryw i Gyngor Bro Morgannwg fabwysiadu enw sydd yn cydnabod pwysigrwydd y mudiad Black Lives Matter, a’r gefnogaeth eang sydd ganddo,” meddai’r neges.

“Mi allan nhw, er enghraifft, fabwysiadu enw un o ddiddymwyr cynharaf Cymru, William Pantycelyn. Ef hefyd sgwennodd yr emyn Cymreig ‘Bread of Heaven’ dylanwadol …

“Felly rydym yn cynnig Ffordd Pantycelyn yn enw llawer mwy priodol ar gyfer y datblygiad newydd, a byddai’n cadarnhau bod bywydau pobol dduon yn sicr o bwys – yn y gorffennol a heddiw.”

Tanio dadl

Roedd Barwn 1af Penrhyn, Richard Pennant (1737-1808), yn berchen ar ystâd Penrhyn ar gyrion Bangor, ar chwe phlanhigfa siwgr yn Jamaica, ac ar gannoedd o gaethweision Affricanaidd.

Mae yna rywfaint o ddryswch ynghylch a yw enw arfaethedig y datblygiad yn cyfeirio at y ffigwr hwn, neu a yw’n cyfeirio at benrhyn – hynny yw, trwyn uchel o dir yn ymestyn allan i’r môr.

Ymhlith y rheiny sydd wedi rhannu eu barn am y mater o ongl y Gymraeg mae’r academydd, Simon Brooks.

“Os ydi o’n enw daearyddol – e.e. ‘Ffordd Penrhyn’ am fod y lôn ar benrhyn – byddai protest yn ymosodiad rhagfarnllyd ar y diwylliant Cymraeg,” meddai ar Twitter.

“Os ydi o’n enw sy’n dynodi ‘Arglwydd Penrhyn’, protest hollol gyfiawn. Dylai Cyngor Bro Morgannwg esbonio beth yw tarddiad yr enw.”

Y Cyngor

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Fro Morgannwg am ymateb.