Dywed Gweinidog Cyllid Iwerddon fod cynllun ysgogi ariannol diweddaraf llywodraeth y wlad ddwywaith gymaint y pen o’r boblogaeth o’i gymharu â chynllun cyfatebol y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddodd Paschal Donohoe gynllun chwe biliwn ewro y llywdoraeth ddoe (dydd Iau Gorffennaf 23), a oedd yn cynnwys torri Treth ar Werth (VAT).

Mae gweinidogion y Llywodraeth wedi bod yn amddiffyn y cynllun economaidd, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “cyfle wedi ei golli” gan bleidiau eraill.

Ond wrth siarad gyda chynhadledd i’r wasg yn Nulyn ddydd Gwener (Gorffennaf 24), cymharodd Paschal Donohoe raddfa pecyn Iwerddon gyda phecyn y Deyrnas Unedig.

“Cyhoeddodd y Deyrnas Unedig becyn haf werth £30bn, oddeutu 1% o incwm cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

“Mae’r pecyn hwn yn gyfwerth â 3% o’n hincwm cenedlaethol, neu 1,000 ewro i bob dinesydd Gwyddelig.

O’i gymharu, roedd pecyn y Deyrnas Unedig yn oddeutu £450 i bob dinesydd.”