Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau’r gwarchae yn cael eu llacio yn Lloegr o Orffennaf 4 – ond fydd y newidiadau ddim yn berthnasol i Gymru.
Bydd preswylwyr dau dŷ yn cael ymgynnull dan do, gan gynnwys mewn tafarndai a bwytai, ond bydd yn rhaid iddyn nhw ddilyn rheolau ymbellháu cymdeithasol.
Bydd y rheol dau fetr yn cael ei llacio, gyda rheol “un metr a mwy” yn dod i rym.
Yn ôl Boris Johnson, mae’r “gaeafgwsg cenedlaethol” yn dechrau dod i ben, ac mae “bywyd yn dychwelyd i’n strydoedd”.
Dywedodd wrth Aelodau Seneddol fod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud wrth ddelio â’r feirws yn golygu bod modd cymryd camau “i lacio’r gwarchae mewn ffordd ddiogel”, ond fod angen bod yn “ofalus” o hyd.
Aeth yn ei flaen i ddweud bod y rheol dau fetr yn “gwneud bywyd yn amhosibl i rannau mawr o’n heconomi hyd yn oed heb gyfyngiadau eraill”.
“Heddiw (dydd Gwener, Mehefin 23) rydym yn cyhoeddi canllawiau ar sut gall busnesau leihau’r risg drwy gymryd camau i warchod gweithwyr a chwsmeriaid,” meddai.
‘Synnwyr cyffredin’
Dywed ei fod yn dibynnu ar bobol i ddefnyddio synnwyr cyffredin er mwyn cyfyngu ymlediad y feirws.
Mae swyddogion yn cydnabod bod Gorffennaf 4 yn gam arwyddocaol, ond yn dal yn bell o fod yn dychwelyd fywyd arferol.
Ymysg y mesurau sydd wedi eu cyhoeddi gan Boris Johnson mae:
- Tafarndai a bwytai yn cael agor ond wedi eu cyfyngu i wasanaeth bwrdd.
- Pobol yn cael aros dros nos mewn gwestai, gwely a brecwast a gwersyllfaoedd.
- Cyfleusterau hamdden ac atyniadau twristaidd yn cael ailagor.
- Sinemâu, amgueddfeydd ac orielau yn cael derbyn ymwelwyr.
- Pobol yn cael mynd i siopau trin gwallt.
Fodd bynnag, bydd clybiau nos, canolfannau chwarae a busnesau sy’n cynnwys agosatrwydd yn aros ar gau, gan gynnwys siopau harddwch a salonau.
Mae disgwyl y cyhoeddiad nesaf ynglŷn â’r gwarchae yng Nghymru ar Orffennaf 6.