Does “dim tystiolaeth” fod y coronafeirws wedi lledu o ddwy ffatri ieir ym Môn a Wrecsam i’r gymuned leol, yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

Mae nifer fach o achosion hefyd mewn ffatri prosesu cig ym Merthyr Tudful.

Mae gwarchae ar raddfa fach wedi’i chyflwyno eto yn sgil yr achosion, ac mae Vaughan Gething yn dweud bod angen trin pob achos yn unigol.

“Dw i eisiau ategu, ar hyn o bryd, nad oes tystiolaeth o ledu i’r gymuned ehangach y tu hwnt i’r ffatrïoedd hyn,” meddai yn ei gynhadledd ddyddiol heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 23).

“Mae’r holl achosion yn gysylltiedig yn uniongyrchol â phobol sy’n gweithio yn y ffatrïoedd hyn.

“Mae’r achosion wedi’u nodi trwy ein system Profi, Olrhain, Gwarchod, sy’n dangos ei bod yn gweithio’n iawn.”

Mae’n dweud bod cynnydd bach yn nifer yr achosion dros y penwythnos “fwy na thebyg” yn gysylltiedig â’r achosion hyn, gyda’r nifer yn gostwng yn raddol fel arall.