Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu gweithwyr ffatri Northwood Hygiene Products ym Mhen-y-groes.
Daeth cyhoeddiad ar Fai 26 y byddai’r ffatri yn Nyffryn Nantlle, sy’n cyflogi 94 o bobol, yn cau o ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant yn sgil y coronafeirws.
Mae 94 aelod o staff yn gweithio ar y safle yn Nyffryn Nantlle.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth ariannol, a gafodd ei wrthod “am resymau masnachol”.
‘Troi pob carreg’
“Ers cyhoeddiad y cwmni eu bod yn bwriadu cau eu ffatri, mae’r Cyngor wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda phartneriaid i wyntyllu pob opsiwn i sicrhau fod dyfodol llewyrchus i’r safle pwysig yma ym Mhenygroes,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, yr aelod sy’n gyfrifol am yr economi ar Gyngor Gwynedd.
“Mae’r safle yma wedi bod yn gyflogwr allweddol bwysig i nifer lawer o deuluoedd Dyffryn Nantlle ar hyd y blynyddoedd.
“Mae’n amlwg o’r trafodaethau lleol yr ydan ni wedi eu cael gyda thrigolion a grwpiau cymunedol yn y cylch fod yna awydd cryf i ganfod opsiwn hirdymor fydd yn gallu parhau i gynnig cyflogaeth dda ar y safle.
“Fel Cyngor, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i hwyluso’r gwaith yma ac yn cefnogi yr awydd yma sydd yng nghymuned Dyffryn Nantlle i ganfod datrysiad lleol.
“Byddwn yn parhau i gydweithio gydag unrhyw ddarpar-berchnogion sydd á diddordeb cymryd drosodd y ffatri – ein blaenoriaeth ydi sicrhau cyflogaeth ar y safle.
“Y gwir ydi fod cyhoeddiad Northwood yn dilyn patrwm yr ydym wedi ei weld o gwmnïau sy’n berchen ar safleoedd cynhyrchu sydd o bwys mawr i economïau lleol yn cau yn ddisymwth.
“Mewn achosion o’r fath, mae’r penderfyniadau i gau yn cael eu cymryd gan gwmnïau sydd a’u pencadlys ymhell y tu allan i Wynedd.
“Ond, mae eu penderfyniadau yn cael effaith pellgyrhaeddol ar allu ein teuluoedd ni yma yng Ngwynedd i roi bwyd ar y bwrdd bob wythnos.
“Mae’n tanlinellu pwysigrwydd yr angen i ni feddwl yn y tymor hir am fodel fydd yn cynnig cyfle am berchnogaeth a rheolaeth leol ar ein cyflogwyr mawr.
“Rydw i’n ddiolchgar i gymuned Dyffryn Nantlle am fod mor barod i drafod eu gweledigaeth gyda ni.
“Rydym yn gytûn y gall y safle yma ym Mhenygroes roi cyfle i ni feddwl yn arloesol, mewn cydweithrediad gyda’r gymuned leol i gynnig cyflogaeth gynaliadwy a sefydlog i’r dyfodol.
“Byddwn yn troi pob carreg yn ein hymdrechion wrth weithio gyda’r gymuned ar y nod yma.”