Mae cyfyngiadau newydd wedi’u gosod ar fywyd nos yng Nghatalwnia yn sgil achosion diweddar o’r coronafeirws.

Bellach, mae gwaharddiad ar fynd i glybiau nos, neuaddau dawns a chanolfannau sy’n llwyfannu sioeau, yn ogystal ag unrhyw leoliad sydd â lloriau dawnsio.

Mae cyrffiw mewn grym mewn tair ardal ar fynd i fwytai, bariau, terasau, bariau traeth, casinos a neuaddau bingo, sy’n gorfod cau am ganol nos.

Bydd rhagor o gyfyngiadau’n parhau hefyd, gan gynnwys gwaharddiad ar gynulliad o fwy na deg o bobol, ac fe allen nhw gael eu hymestyn y tu hwnt i’r wythnos nesaf.

Yn ôl Josep Maria Argimon, ysgrifennydd iechyd cyhoeddus Catalwnia, does dim angen aros am ganiatâd y farnwriaeth gan nad yw’r rheolau newydd yn ymyrryd â hawliau dynol sylfaenol.