Mae Liz Saville Roberts yn galw am sicrwydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bydd y broses o edrych ar ddyfodol cartref gofal Pwylaidd ym Mhen Llŷn yn diogelu buddiannau preswylwyr a gofal nyrsio digonol.
Daw sylwadau Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ar ôl i’r bwrdd iechyd ddweud eu bod nhw’n edrych ar gynnig i ddarparu gofal nyrsio yn yr ardal a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ar Fedi 14.
Bu Liz Saville Roberts yn cydweithio â Mabon ap Gwynfor, yr ymgyrchydd iechyd a chadeirydd Cynghrair Iechyd gogledd Cymru, a’r Cynghorydd lleol Angela Russell i sicrhau gwlâu nyrsio yn yr ardal.
Barn ‘unfrydol’
“Rwyf wedi bod mewn trafodaethau rheolaidd gyda’r holl awdurdodau perthnasol ers i Gymdeaithas Tai Gwlad Pwyl gyhoeddi eu penderfyniad i gau’r cartref nyrsio ym mis Mehefin,” meddai Liz Saville Roberts.
“Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n bennaf gyfrifol am barhad y ddarpariaeth nyrsio.’
“Mae arweinwyr cymunedol yn unfrydol bod angen i bobl Llyn wybod ar frys beth yw dyfodol y gwelyau nyrsio ar y safle a sut y bydd y bwrdd iechyd yn cynnal gofal nyrsio yn yr ardal gyfagos.
“O ystyried lefel y pryder yn dilyn y cyhoeddiad – ymhlith cleifion, eu teuluoedd ac aelodau staff – rwy’n croesawu amserlen glir gan y bwrdd iechyd, a bydd cynigion rwan yn cael eu llunio a’u cyflwyno erbyn dechrau mis Medi.
“Mae penderfyniad amserol yn hanfodol i gynnal hyder y gweithlu a theuluoedd, a gallai methu â gweithredu’n gyflym ynddo’i hun, arwain at gau’r Cartref Pwylaidd.
“Rwyf hefyd yn annog y bwrdd iechyd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddefnyddir i lywio penderfyniadau strategol yn gyhoeddus er mwyn diogelu hyder y cyhoedd yn y penderfyniad terfynol.
“Wrth iddynt lunio eu cynigion, byddwn yn apelio ar benaethiaid iechyd i gael eu harwain gan eu dyletswydd i ofal cleifion.
“Mae pryderon eisoes ynglŷn â chapasiti gofal nyrsio yn Nwyfor.
“Rhaid i gynlluniau ar gyfer y dyfodol ystyried sut i gadw anwyliaid yn agos at eu teuluoedd, a sicrhau cynllunio priodol o ran cyfleusterau, staffio a chyllid.’
“Rwy’n annog BCUHB i gyflwyno cynigion sy’n adlewyrchu’r gefnogaeth gyhoeddus ysgubol i amddiffyn gwelyau nyrsio yng Nghartref y Pwyliaid a’r angen ehangach i gynnal a gwella’r ddarpariaeth nyrsio leol ym Mhen Llyn yn y dyfodol.”
‘Gweld gwir werth’
“Rwyf wedi lobïo y Bwrdd Iechyd lleol a Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i leisio pryderon y gymuned, a byddaf yn parhau i weithio gydag eraill i geisio sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn gweld gwir werth darparu gwelyau nyrsio ar y safle,” meddai’r Cynghorydd Angela Russell.
“Mae gan y Bwrdd Iechyd lleol y gallu i gamu i mewn a sicrhau bod darpariaeth nid yn unig yn cael ei chynnal ym Mhenrhos, ond ein bod yn gweld gwelliannau gwirioneddol iddo.’
“Mae ‘Pen Llyn yn ardal wledig wasgaredig, gyda’r holl gymlethdodau trafnidiaeth cysylltiedig. Ni ddylem ddisgwyl i’r henoed a’r bregus orfod symud i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a’u cymunedau lleol oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol.’
“Rhaid i’r Bwrdd Iechyd weithio’n adeiladol gydag eraill i sicrhau y bydd gwelyau nyrsio yn cael eu cynnal yma. Yn syml, ni allant droi eu cefnau ar Ben Llyn.”