“Byddai’r fannod yn ei setlo hi”, meddai’r awdur, bardd a chyfieithydd blaenllaw Siân Northey wrth golwg360 am ffrae ynghylch enw stryd Ffordd Penrhyn ar ddatblygiad tai newydd yn Y Barri.

Roedd hi ymhlith nifer o bobol sydd wedi ymateb i drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch protest y mudiad Black Lives Matter, sy’n honni bod yr enw’n cyfeirio at y masnachwr caethweision, yr Arglwydd Penrhyn.

Ond mae hi’r un mor debygol, serch hynny, fod yr enw amwys yn cyfeirio at benrhyn Ynys y Barri.

Mae’r protestwyr yn galw ar Gyngor Bro Morgannwg i newid enw’r stryd.

Hanes yr enw Penrhyn

Roedd Richard Pennant yn berchen ar bron i 1,000 o gaethweision yn Jamaica.

Roedd e’n gyfrifol am adnewyddu Castell Penrhyn a chwarel y Penrhyn ger Bethesda.

Roedd e hefyd yn ymgyrchu yn erbyn gwahardd caethwasiaeth.

Mae’n un o nifer o fasnachwyr caethweision yng Nghymru sydd wedi dod dan y lach yn ddiweddar am eu cysylltiadau â’r diwydiant, ynghyd â Syr Thomas Picton.

Trafodaeth ieithyddol

“Mi fasa rhoi’r fannod yno yn ei setlo hi, dyna’r cwbl ro’n i’n ei ddeud,” meddai Sian Northey am ei sylwadau ar Twitter.

“Bechod bo ’na ddim cyfle i drafod cyn bod y bobol yma’n neidio ar y ddadl Black Lives Matter ac yn ei throi hi.”

Roedd hi’n ymateb i sylwadau gan Yasmin Begum, @Punkistani ar Twitter, oedd yn egluro’r gwahaniaeth rhwng yr enw priod Penrhyn a’r enw Cymraeg ar gyfer ‘peninsula’.

“Galla i ddeall pam nad yw pobol eisiau Ffordd Penrhyn,” meddai Yasmin Begum.

“Licio neu beidio, mae gan Penrhyn ystyr y tu hwnt i ddaearyddiaeth.”

Mae’n mynd yn ei blaen i egluro ei bod hi’n “annhebygol” y byddai’r Cyngor yn cyfaddef iddyn nhw enwi’r stryd ar ôl yr Arglwydd Penrhyn, “yn enwedig yn sgil y diffyg ‘y’ i wahaniaethu rhwng enw lle ac enw priod”.

“Yn fy marn i, mae hyn am yr enw ‘Penrhyn’ a sut mae diffyg y fannod yn ei wneud yn enw priod a’i fod yn cyfeirio at berchennog caethweision.”