Mae Layla Moran, un o’r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesa’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn dweud y dylid cyflwyno achos “emosiynol” o blaid yr Undeb.

Mae hi’n herio Syr Ed Davey yn y ras i olynu Jo Swinson, sydd wedi canmol perfformiad y blaid yn yr Alban, er gwaetha’r perfformiad drwy wledydd eraill Prydain.

Mae polau eisoes yn awgrymu y bydd yr SNP yn ennill mwyafrif yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, gyda 54% o Albanwyr o blaid annibyniaeth.

“Ers i ni gael ein sefydlu, rydym yn siarad am ffederaliaeth,” meddai Layla Morgan.

“Prif nodwedd unigryw’r Democratiaid Rhyddfrydol yw ein dull leol o wleidydda.

“Ar adeg pan fo pobol yn ceisio rhannu’r Alban a Lloegr, byddwn i’n dadlau mai dyma’r amser i ni gael hyd yn oed mwy o gydweithio.

“Mae’r coronafeirws wedi dangos i ni, mewn gwirionedd, y gallwn ni gydweithio’n effeithiol.”

‘Apelio’

“Os ydyn ni am frwydro’r Torïaid yn effeithiol a hefyd os ydyn ni am frwydro’r SNP yn effeithiol, mae angen i’r Democratiaid Rhyddfrydol gyflwyno’r ddadl emosiynol honno dros yr Undeb,” meddai wedyn.

“Y ffordd rydyn ni’n gwneud hynny yw trwy apelio at synnwyr pobol o gydweithio, fel yr ydyn ni wedi’i wneud.

“Fe fu gennym ni neges gyson o hyd fel rhyddfrydwyr ar y mater yma.

“Os ydych chi am herio materion mawr y dydd, y ffordd orau o wneud hynny yw dod o hyd i’ch ffrindiau a chydweithio â nhw.”

Lleisiau ddim yn ddigon amlwg

Yn ôl Layla Moran, dydy’r lleisiau fu’n pledio achos yr Undeb ddim wedi bod yn ddigon amlwg.

“Dydy’r achos emosiynol ddim yn cael ei gyflwyno’n ddigon uchel,” meddai.

“Mae angen i’r cwestiwn cyfansoddiadol fod yn fwy na’r hyn mae Nicola Sturgeon a Boris Johnson yn ei ddefnyddio yn erbyn ei gilydd.

“Mae e’n dweud, ‘Fe wna i roi’r holl arian i chi, dylech chi werthfawrogi hynny’, ac mae hi’n dweud, mewn gwirionedd, ‘Wel, rydyn ni am fynd ar ein pennau ein hunain a chlywch, rydyn ni’n gwneud cymaint yn well mewn gwirionedd’.

“Dyw e ddim yn un peth na’r llall.”