Mae Cynghorydd Plaid Cymru yn galw am gywiro enw Ffordd Penrhyn ar arwydd stryd yn Y Barri yn dilyn ffrae am gysylltiadau posib â’r diwydiant masnachu caethweision.

Mae protestwyr yn enw Black Lives Matter wedi bod yn galw ar Gyngor Bro Morgannwg i newid yr enw.

Mae Ian Johnston bellach yn galw am newid yr enw i’r un gwreiddiol a gafodd ei gytuno fel rhan o ymgynghoriad, yn hytrach na’r enw sy’n awgrymu cysylltiadau â’r Arglwydd Penrhyn, masnachwr caethweision yn Jamaica.

‘Peninsular Way’ yn Saesneg

Yn ôl Ian Johnson, mae “ymdrech enfawr” wedi cael ei gwneud i wneud Y Barri yn dref groesawgar, a’r bwriad oedd dewis enw i adlewyrchu a dathlu hanes a daearydiaeth yr ardal.

“Pan ymgynghorwyd ar enwau strydoedd newydd yn 2017, fe wnaeth Cyngor y Fro gynnwys yr awgrymiadau ‘Peninsular Way’ yn Saesneg a ‘Ffordd Y Penrhyn’ yn Gymraeg, felly roedd eu bwriad yn eithaf clir,” meddai.

“Yn anffodus, mae’r ‘Y’ wedi cael ei hepgor wrth ysgrifennu’r arwydd, fel ei bod yn darllen fel enw person, yn debyg i strydoedd cyfagos fel Heol Tapscott, sy’n dwyn enw pêl-droediwr rhyngwladol Y Barri, Arsenal a Chymru, a Heol Livesey ar ôl actor ffilmiau.”

Mae’n dweud iddo ysgrifennu at y Cyngor yn gofyn iddyn nhw newid yr arwydd “er mwyn rhoi terfyn ar y dryswch”.

“Gobeithio y gallwn ni symud ymlaen o hyn a chanolbwyntio ein hegni ar faterion pwysig megis adfer economi’r Barri yn dilyn yr argyfwng coronafeirws.”

Y llythyr

“Dwi’n ymwybodol o’r datganiad gan y cyngor yn gwrthod hyn,” meddai yn ei lythyr.

“Mae copi gyda fi o’r ymgynghoriad gwreiddiol yn 2017 sy’n nodi ‘Peninsular Way’ a ‘Ffordd Y Penrhyn’ fel awgrymiadau (yn amgaeedig), felly mae’n amlwg doedd dim bwriad cysylltu’r Glannau neu Dociau’r Barri gyda chaethwasiaeth.

“Er hynny, mae’r arwydd stryd ar y Glannau yn anghywir oherwydd diffyg bannod – un oedd yn bodoli yn yr ymgynghoriad. Oherwydd hynny mae dryswch achos mae’r strydoedd cyfagos yn defnyddio’r fannod wrth gyfeirio at faterion daearyddol a heb y fannod wrth gyfeirio at bobl, megis Derek Tapscott a Roger Livesey.

“A oes modd newid arwydd y stryd i ‘Ffordd Y Penrhyn’ i adlewyrchu’r hyn yr awgrymwyd yn yr ymgynghoriad gwreiddiol?”