Mae grwpiau teithio a chwsmeriaid wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Prydain i orfodi pobol sy’n dod neu ddychwelyd i wledydd Prydain o Sbaen i ynysu am 14 diwrnod unwaith eto.
Daeth cyhoeddiad ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 25) y byddai’n rhaid i bobol ynysu os nad oedden nhw’n dod adref erbyn canol nos.
Mae Sbaen bellach wedi diflannu oddi ar restr Prydain o’r gwledydd teithio diogel, ond mae’r llywodraeth dan bwysau i egluro pam fod cyn lleied o rybudd cyn cyflwyno’r cam.
Dim ond yr wythnos ddiwethaf y cafodd Sbaen ei hychwanegu at restr gwledydd teithio diogel yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon a Chymru hefyd wedi atal y coridor teithio erbyn hyn.
Ymhlith y rhai fydd yn gorfod ynysu mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, sydd wedi bod ar ei wyliau yn Sbaen ac sydd wedi bod yn cynnal cyfarfodydd brys o’r wlad dros y ffôn gyda’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock a Michael Gove, gweinidog y Swyddfa Gabinet.
Ymateb y diwydiant
Yn ôl Cyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd, mae’r penderfyniad yn “drychinebus” i’r diwydiant yng ngwledydd Prydain a Sbaen.
Dywed Gloria Guevara, llywydd a phrif weithredwr y corff, y bydd yn “ergyd drom” i bobol sydd eisoes ar eu gwyliau.
Ac yn ôl Rory Boland, golygydd y cylchgrawn cwsmeriaid Which? Travel, bydd llawer iawn o bobol yn “grac dros ben” na ddaeth y penderfyniad 48 awr ynghynt.
Mae cwmni teithio Tui wedi gohirio pob hediad oedd i fod i fynd i Sbaen a’r Ynysoedd Dedwydd, ac yn dweud eu bod nhw’n “hynod siomedig” na chawson nhw fwy o rybudd.
Ymateb Llywodraeth Prydain
Yn ôl Llywodraeth Prydain, maen nhw wedi ymateb “ar unwaith” i “ddarlun sy’n symud yn gyflym” yn Sbaen.
Maen nhw’n dweud mai gwarchod y cyhoedd yw’r flaenoriaeth a bod angen atal unrhyw ledaeniad posib o’r feirws.
Mae’r Swyddfa Dramor bellach yn cynghori pobol na ddylen nhw deithio i Sbaen oni bai bod rhaid.
Mae’r Blaid Lafur yn galw ar Lywodraeth Prydain i gyhoeddi sut fydd teithwyr yn cael eu cefnogi yn sgil y datblygiadau diweddaraf, wrth i’r Adran Drafnidiaeth annog cyflogwyr i fod yn drugarog wrth i weithwyr gadw draw o’r gwaith os ydyn nhw’n ynysu.