Mae Radio Cymru wrthi’n darlledu’r rhaglen gyntaf o’r pencadlys newydd yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips sy’n cyflwyno Y Sioe Sadwrn, oedd wedi dechrau am 11yb.

Daw’r rhaglen gyntaf oriau’n unig ar ôl i Daniel Glyn gyflwyno’r rhaglen gyntaf i’w darlledu ar Radio Cymru 2 o’r stiwdio newydd sbon, ac yn cadw cwmni iddo roedd dau arall o gyflwynwyr Radio Cymru, Huw Stephens a Caryl Parry Jones

‘Y bobol biau’r cyfrwng’

Mae Rhuanedd Richards, Golygydd Radio Cymru a Cymru Fyw, yn dweud bod arwyddocâd arbennig i achlysur y darllediad cyntaf.

“Y bobl biau’r cyfrwng’ – dyna oedd y dyhead am ein gwasanaethau Cymraeg,” meddai.

“Mae’n arwyddocaol felly fod cartref newydd Radio Cymru a BBC Cymru Fyw yn y de bellach wedi ei leoli yng nghanol y brifddinas ac mewn safle sydd mor gyfarwydd i bobol Cymru.

“Rwy’n falch iawn hefyd fod ein gwasanaethau Cymraeg bellach yn medru manteisio ar y dechnoleg ddarlledu orau wrth i ni barhau i weithio tuag at gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

“Cryfder mawr Radio Cymru a Radio Cymru 2 wrth gwrs yw ein bod ni’n darlledu o ganolfannau ar draws Cymru gyfan, ac mae ein hymrwymiad i hynny yn parhau.”

‘Y garreg filltir bwysicaf’

Roedd Hywel Gwynfryn, un o gyflwynwyr cyntaf Radio Cymru yn 1977, yn y stiwdio ar gyfer y darllediad cyntaf hanesyddol.

Fe fydd yn cyflwyno’i raglen Sul o’r stiwdio yfory (Gorffennaf 26) ar ôl bod yn gweithio o’r stiwdio yn Llandaf ers ei hagor yn 1967.

“Yn 1966, flwyddyn cyn agoriad swyddogol y ganolfan ddarlledu newydd, fe ddringais y grisiau i mewn i Landaf am y tro cyntaf,” meddai.

“Ymhen y flwyddyn ’roeddwn i yn stiwdio 4 yn cyflwyno’r rhaglen bop gyntaf yn y Gymraeg – Hylo Sut da Chi.

“Ac yna ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fe ges i’r cyfle i gyflwyno’r sioe frecwast ar Radio Cymru, y garreg filltir bwysicaf i mi yn bersonol yn ystod fy nghyfnod yn Llandaf.

“Mae’r daith yn parhau, ac rwy’n symud cartref eto, y tro yma i’r Sgwâr Canolog, ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r datblygiad cyffrous nesa yn hanes y BBC yng Nghymru.

“Ers i ddrysau Llandaf agor ym 1967, fe fu newidiadau mawr, chwyldro technolegol yn wir, ac mae’r adeilad newydd yn y Sgwâr Canolog yn brawf o hynny.

“Ond mae’r nod yn parhau yn ddigyfnewid- ceisio diddori’n cynulleidfa yn y modd mwyaf creadigol. Fe ddylai hynny, fel y sgwâr, fod yn ganolog i’n bwriad.”