Mae Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud ei fod e’n difaru ei negeseuon Twitter “yn rhy aml”, ac mae ail-drydar negeseuon heb wirio ffeithiau sy’n achosi’r “drafferth” fwyaf.

Daw ei sylwadau wrth iddo siarad â Barstool Sports, gan ddweud nad yw oes y cyfryngau cymdeithasol fel yr oes a fu pan fyddai pobol yn ysgrifennu llythyron ac yn oedi cyn eu hanfon.

“Dydyn ni ddim yn gwneud hynny gyda Twitter, nac ydyn?” meddai.

“Rydyn ni’n ei hanfon ar unwaith, yn teimlo’n wych, ac yna rydych chi’n dechrau cael galwadau ffôn: ‘Wnaethoch chi ddweud hyn go iawn?”

Wrth drafod ail-drydar, sy’n gallu cael ei ystyried yn sêl bendith i sylwadau rhywun arall, dywedodd mai’r rheiny “sy’n achosi trafferth i chi”.

“Rydych chi’n gweld rhywbeth sy’n edrych yn dda heb eich bod chi’n ymchwilio,” meddai’r arlywydd sydd wedi bod dan y lach yn ddiweddar am ail-drydar negeseuon am oruchafiaeth pobol â chroen gwyn a gwrth-Semitiaeth.