Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud iddyn nhw orfod troi oddeutu 60 o gerbydau i ffwrdd o ardal Pen-y-Pas yn Eryri fore heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 25).

Dyma’r ail benwythnos yn olynol i bobol heidio i’r ardal yn dilyn llacio cyfyngiadau’r coronafeirws, a hynny er bod y maes parcio ger yr Wyddfa ynghau ar benwythnosau hyd at ddiwedd yr haf.

Y penwythnos diwethaf, rhoddodd yr heddlu gannoedd o ddirwyon yn yr ardal rhwng Pen-y-pas a Phen-y-Gwryd, ond mae’n ymddangos bod pobol yn parhau i anwybyddu’r rhybuddion i gadw draw.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae conau’n cael eu rhoi ar y ffyrdd mewn rhai ardaloedd er mwyn atal pobol rhag parcio yno, ac mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n gofyn i bobol fod yn “gyfrifol” er mwyn lleihau’r pwysau arnyn nhw.

“Dylai modurwyr wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio sydd ar gael yn Nant Peris, Llanberis a Pen-y-gwryd gerllaw ac i wirio gwefan @croesoeryri i gael y manylion diweddaraf am eu meysydd parcio,” meddai’r heddlu mewn neges ar Twitter.

“Rydym eisiau i bobl allu mwynhau ein mynyddoedd yn ddiogel ond yn gyfrifol.”